Ar 30 Mai 2022 cyflwynodd Awel y Môr Offshore Wind Farm Limited gais am drwydded forol i CNC ar gyfer Fferm Wynt Alltraeth Sefydlog o'r enw Awel y Môr.
Mae Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr yn chwaer brosiect arfaethedig i Fferm Wynt Alltraeth weithredol Gwynt y Môr oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd Awel y Môr yn cynnwys hyd at 50 o Eneraduron Tyrbinau Gwynt a'r holl seilwaith cysylltiedig sydd ei angen i drosglwyddo'r trydan a gynhyrchir i'r lan.
Mae ardal aráe Awel y Môr tua 10.5km oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Mae Coridor y Cebl Allforio ar y môr yn ymestyn o ffin dde-orllewinol i ffin dde-ddwyreiniol ardal yr aráe i gyfeiriad y de-ddwyrain i gwrdd â’r tir ar Draeth Frith rhwng y Rhyl a Phrestatyn.
Y tu allan i gwmpas y cais hwn am drwydded forol, mae Coridor Cebl Allforio ar y tir yn ymestyn o'r tir i'r is-orsaf ar y tir i'r gorllewin o Barc Busnes Llanelwy cyn cysylltu ag is-orsaf y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar yr wybodaeth a anfonwyd yn y cais gwreiddiol. Bu’r ymgynghoriad hwnnw yn rhedeg am 42 diwrnod a daeth i ben ar 18 Awst 2022.
Rydym wedi llunio Datganiad lle gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses benderfynu ar gyfer cais Awel y Môr am drwydded forol.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook