Cyfleuster Ailgylchu Gwastraff Arrow Bio - Ymgynghoriad Cais Cychwynnol

Overview

Mae Deeside SPV Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Mae'r rhif cyfeirnod PAN-028894 wedi'i neilltuo i'r cais.

Mae'r cyfleuster arfaethedig wedi'i leoli yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Arrow Bio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Ffordd Weighbridge, Glannau Dyfrdwy, CH5 2LL.

Mae’r gweithgaredd arfaethedig ar gyfer gwaith treulio anaerobig (AD) newydd gyda thrwybwn blynyddol o 149,000 tunnell y flwyddyn o wastraff bwyd sy’n cael ei wahanu yn y ffynhonnell.

Yn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol mae cynnig yr ymgeisydd yn dod o dan weithgaredd Adran 5.4 fel y'i diffinnir isod ac felly fe'i hystyrir yn osodiad.

'Adran 5.4, Rhan A (1)(a) (i) Gwaredu gwastraff amheryglus sy'n fwy na 50 tunnell y dydd (neu 100 tunnell y dydd os treulio anaerobig yw'r unig weithgaredd trin gwastraff) sy'n cynnwys un neu fwy o'r gweithgareddau canlynol:

(i) triniaeth fiolegol

Mae'r cais yn cynnwys disgrifiad o'r gweithgaredd arfaethedig a ganiateir.

Ceir dolennau ar gyfer y prif ddogfennau sy'n ymwneud â'r cais ar waelod y dudalen hon.

Gallwch weld y set lawn o ddogfennau cais ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein . Fel arall, gallwch drefnu i weld y dogfennau drwy ffonio ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu drwy anfon e-bost at permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk

Rydym yn ceisio eich sylwadau am y cais ac wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos tra byddwn yn dechrau cam penderfynu (asesiad technegol) y broses ymgeisio. 

Manylion y Cais

Math o gais: Pwrpasol Newydd

Cyfeiriad: Cyfleuster Ailgylchu Gwastraff Arrow Bio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Ffordd Weighbridge, Glannau Dyfrdwy, CH5 2LL

Gweithredwr: Deeside SPV Limited 

Gweithgaredd Arfaethedig : Treuliad Anaerobig Gwastraff gyda thrwybwn o 149,000 y flwyddyn. Mae'r gweithgaredd hwn yn dod o dan Adran 5.4 Rhan A (1)(a)(i) o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Cyfeiriwch at ddogfennau ategol y cais i gael manylion llawn cynnig y gweithredwyr.  

Pam y mae eich barn chi yn bwysig  

Dyma eich cyfle chi i weld dogfennau ategol y cais ac i ymateb i'n hymgynghoriad gyda'ch sylwadau. Byddwn yn ystyried eich ymatebion i'r ymgynghoriad fel rhan o'n penderfyniad ar y cais. Os byddwn yn penderfynu rhoi'r drwydded, byddwn yn egluro sut y gwnaethom ein penderfyniad a sut yr ydym wedi mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd. 

Yr hyn y gallwn ei ystyried: 

  • Cymhwysedd y gweithredwr i fodloni amodau'r drwydded 
  • Unrhyw derfynau allyriadau arfaethedig i aer, tir a dŵr 
  • Effeithiau posibl ar iechyd a'r amgylchedd lleol 
  • Rheolaeth weithredol gyffredinol o’r cyfleuster arfaethedig 
  • Trin a storio unrhyw wastraff a deunyddiau crai 
  • Defnydd effeithlon o unrhyw ddeunyddiau crai, dŵr ac ynni 
  • Rheoli unrhyw arogl, sŵn, llwch, sbwriel a phlâu 
  • Unrhyw ffactorau lleol perthnasol nad ydych chi'n credu bod yr ymgeisydd wedi'u hystyried yn y cais 
  • Proses fonitro, gweithdrefnau a safonau y cytunwyd arnynt 

Yr hyn na allwn ei ystyried:  

  • Lleoliad y safle (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol) 
  • Traffig (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol) 
  • Effaith weledol (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol) 
  • Defnydd tir (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol) 
  • Oriau gweithredu neu bolisi'r llywodraeth, p'un a yw'n Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol) 
  • Penderfynu a oes rhaid i'r ymgeisydd gynnal Asesiad Effaith Amgylcheddol hefyd (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol) 
  • Faint o ddeunydd crai sy'n cael ei ddefnyddio ac o ble y daw 
  • Mynediad i'r safle (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol) 

Gallwch weld dogfennau ategol y cais a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad isod. Fel arall, gallwch anfon unrhyw sylwadau am y cais drwy e-bost at permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk

Ymgynghori Ar-lein

Closes 6 Jul 2026

Opened 8 Jun 2026

Areas

  • Connah's Quay Wepre

Audiences

  • EPR and COMAH facilities

Interests

  • Permits