Cais i amrywio trwydded amgylcheddol yn Nhrawsfynydd

Yn cau 6 Awst 2024

Wedi'i agor 9 Gorff 2024

Trosolwg

Mae Nuclear Restoration Services Limited (NRS) (Magnox gynt) wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei Drwydded Amgylcheddol ar gyfer hen safle Gorsaf Ynni Niwclear Trawsfynydd.

Mae’r newid hwn, a elwir yn ‘amrywiad’, yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Mae NRS yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, sy’n berchen ar y safle. Caeodd Gorsaf Ynni Niwclear Trawsfynydd yn 1991 ac NRS sy’n gyfrifol am ei datgomisiynu.

Mae’r Drwydded Amgylcheddol yn ymwneud yn unig â gwaredu, a derbyn i waredu, gwastraff ymbelydrol ar y safle. Nid yw’n ymwneud â gweithrediad yr adweithyddion niwclear yn ystod eu cyfnod mewn gwasanaeth gweithredol.

Fel rhan o’r cais i amrywio’r drwydded, mae NRS yn cynnig dymchwel, mewnlenwi a chapio cyfadeiladau pyllau oeri Trawsfynydd, sef cyfres o adeiladau cymharol isel sydd wedi’u lleoli ochr yn ochr â dau adeilad yr adweithyddion.

Mae’r dogfennau sy’n ymwneud â’r cais wedi’u cysylltu ar waelod y dudalen hon.

Gallwch weld holl ddogfennau’r cais drwy ffonio’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu anfon e-bost at permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i drefnu mynediad i’w gweld ar-lein.

Rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos wrth i ni ddechrau’r cam penderfynu (asesiad technegol) yn y broses ymgeisio.

Gallwch gynnig sylwadau ar y cais trwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad. Mae dolen i’r ymgynghoriad ar waelod y dudalen hon.

Manylion y cais

Rhif y cais: EPR/GB3835DE/V006

Cyfeiriad: Safle Datgomisiynu Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 4DT

Gweithredwr: Nuclear Restoration Services Limited

Strwythurau canolog cyfadeilad y pyllau yw’r pyllau oeri concrit a arferai gael eu defnyddio i oeri tanwydd niwclear wedi’i ddefnyddio ac i’w storio dros dro cyn ei anfon i Sellafield yn Cumbria i’w ailbrosesu.

Mae gan y pyllau oeri a’r celloedd storio cyfagos strwythurau tebyg i flychau o dan y ddaear yn cynnwys gwagleoedd hyd at chwe metr o ddyfnder gyda chyfaint o tua 5,000 metr ciwbig i gyd.

Bydd dymchwel strwythurau concrid cyfadeilad y pyllau sydd uwchlaw’r ddaear yn arwain at lenwi’r gwagle â choncrit, mewn darnau’n bennaf, sy’n cynnwys rhywfaint o ymbelydredd. Yna bydd y deunydd yn cael ei selio - proses a elwir yn capio.   

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y gwaith mewnlenwi arfaethedig yn cael ei reoleiddio gan CNC fel math o waredu gwastraff ymbelydrol solet ar y safle, a elwir yn waredu at ddiben. 

Yn ogystal, bydd gadael y strwythurau sydd wedi’u halogi ag ymbelydredd yn y ddaear hefyd yn fath o waredu gwastraff ymbelydrol ar y safle - a elwir yn waredu yn y fan a’r lle. 

Mae canllawiau’r cyd-reoleiddwyr amgylcheddol yn nodi mai’r amcan yw sicrhau bod safle niwclear yn cael ei ddwyn i gyflwr lle gellir ei ryddhau o orchwyl rheoleiddio sylweddau ymbelydrol yn y dyfodol.

Felly, er mwyn cymeradwyo’r cais mae’n rhaid i ni fod yn fodlon bod y gwaith dymchwel, gwaredu a chapio arfaethedig yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n ddiogel ac sy’n bodloni ein safonau ar gyfer diogelu pobl a’r amgylchedd, a’i fod hefyd yn caniatáu i’r safle gael ei ryddhau o orchwyl rheoleiddio sylweddau ymbelydrol yn y dyfodol.

Fel rhan o’r cais, mae NRS wedi cyflwyno achos diogelwch amgylcheddol cychwynnol ar gyfer y safle cyfan, wedi’i gefnogi gan dros 30 o adroddiadau technegol. 

Mae hyn yn cynnwys yr amcangyfrifon cyfredol o swm yr ymbelydredd sydd yn y deunydd arfaethedig i’w waredu, y rhesymeg sy’n sail i ddyluniad y cynigion, ac asesiadau o’r effeithiau posibl ar bobl a’r amgylchedd, yn ymestyn o’r tymor agos i’r dyfodol pell. 

Mae’r achos diogelwch amgylcheddol ar gyfer y safle cyfan yn ceisio dangos i CNC y bydd y cais yn caniatáu i’r safle gael ei ryddhau o orchwyl rheoleiddio sylweddau ymbelydrol yn y dyfodol, ac na fydd lefelau arweiniol meintiol CNC ar gyfer effeithiau yn sgil ymbelydredd yn cael eu torri.

Disgwylir i’r amcangyfrifon o swm yr ymbelydredd sydd yn y deunydd arfaethedig i’w waredu leihau yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Wrth i’r gwaith datgomisiynu o fewn cyfadeilad y pyllau fynd rhagddo, bydd yn bosibl mesur lefelau gwirioneddol yr ymbelydredd sy’n weddill ar arwynebau strwythurau nad oes modd eu cyrraedd ar hyn o bryd neu sy’n aros i gael eu dihalogi.

Rydym yn rhagweld cyfnod penderfynu hir ar gyfer y cais hwn, a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd drwy gydol yr amser.

Yn ystod y cyfnod hwn, disgwylir y bydd yr achos diogelwch amgylcheddol ar draws y safle yn cael ei ddiweddaru, wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn deall bod yr amrywiad hwn yn y drwydded o ddiddordeb arbennig i’r cyhoedd a’r gymuned leol.

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymgynghori â’r cyhoedd ar geisiadau o’r fath.

Dyma’ch cyfle chi i weld dogfennau ategol y cais ac ymateb i’n hymgynghoriad gyda’ch sylwadau. Gallwch weld dogfennau ategol y cais a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad isod.

Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Unrhyw un o unrhyw gefndir

Diddordebau

  • Permits