Bwriad gan unig reoleiddiwr Kronospan i gychwyn ymgynghoriad

Ar gau 17 Gorff 2022

Wedi'i agor 16 Meh 2022

Trosolwg

Rydym yn bwriadu dyroddi'r hysbysiad amrywio a'r drwydded gyfunol. Byddwn ond yn dyroddi’r drwydded gyfunol os byddwn yn credu na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi. Bydd unrhyw drwydded y rhoddwn yn cynnwys amodau priodol i amddiffyn iechyd pobl a'r amgylchedd.

Rhif y cais: PAN-002755

Lleoliad y cyfleuster a reoleiddir: Ffatri Byrddau Gronynnau'r Waun, Ffordd Caergybi, Y Waun, Wrecsam, LL14 5NT

Cefndir

Mae Kronospan Limited wedi bod yn gweithredu ffatri gweithgynhyrchu byrddau gronynnau a byrddau ffeibr dwysedd canolig (MDF) yn y Waun, Gogledd Cymru, ers blynyddoedd lawer. Mae'r gweithgareddau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu'r byrddau wedi gofyn am sawl trwydded amgylcheddol i reoli lefelau'r allyriadau a allai fod yn niweidiol o ganlyniad i'r gweithgareddau ac i sicrhau bod y technegau a ddefnyddir yn unol â datblygiadau technegol a safonau'r diwydiant. Gelwir y safonau hyn yn ‘Dechnegau Gorau sydd ar Gael’.

Mae’r gweithgareddau yn y gosodiad (safle) sy’n cael eu rheoleiddio gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 wedi bod yn destun cyfarwyddiadau amrywiol gan y llywodraeth. Yn fwyaf nodedig oedd y cyfarwyddyd cyntaf yn 2003, a oedd yn rhannu’r gwaith rheoleiddio hwnnw rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (sydd bellach yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)).

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd pellach (‘Cyfarwyddyd 2018’) a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyfuno’r ddwy drwydded bresennol ar gyfer y safle yn un, ac yna cyflawni’r holl swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â’r drwydded honno.

Bydd hyn yn ei hanfod yn ‘normaleiddio’ gwaith rheoleiddio ar y safle, yn yr ystyr y bydd yr holl weithgareddau perthnasol yn cael eu rheoleiddio gan un rheoleiddiwr amgylcheddol, sef CNC. Ar ôl i'r drwydded gyfunol gael ei dyroddi, ni fydd Cyngor Wrecsam bellach yn rheoleiddio gweithgareddau ar y safle, ac na fyddant bellach yn destun Cyfarwyddyd Gweinidogol.

Amrywio a chyfuno trwydded ddrafft

Mae CNC wedi cwblhau'r gwaith o amrywio a chyfuno trwyddedau'r ddau reoleiddiwr ac mae’n bwriadu eu dyroddi. Rydym wedi darparu dogfennau drafft ar gyfer adolygiad ac ymgynghoriad cyhoeddus.

Rydym wedi cwblhau ein penderfyniad helaeth o’r gweithgareddau a, thrwy gydol ein gwaith craffu, rydym wedi gofyn am swm sylweddol o wybodaeth bellach gan y gweithredwr i gynnal ein hasesiadau manwl.  Ein cais olaf oedd i’r gweithredwr gyflwyno adroddiad modelu gwasgariad aer cwbl gyfunol, er mwyn i ni allu archwilio’r gollyngiadau a ragwelir o’r safle cyfan, gan gynnwys o fuddsoddiadau mewn offer a phrosesau ar y safle ers mis Hydref 2014, pan ddyroddwyd fersiwn gyfredol trwydded Cyngor Wrecsam.  Mae hyn yn darparu llinell sylfaen ar gyfer yr holl allyriadau i’r aer o’r safle cyfan, a oedd yn caniatáu i ni gynnal asesiad iechyd dynol ac ecolegol llawn o ollyngiadau i'r aer o’r safle.

Mae'r drwydded ddrafft gyfunol hefyd yn cyflwyno adolygiad llawn o amodau a therfynau i sicrhau cydymffurfedd â’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol, a’r Technegau Gorau sydd ar Gael.

Sylwer – roedd cais amrywio gwreiddiol Kronospan hefyd yn cynnwys cynnig ar gyfer llinell gynhyrchu byrddau llinyn cyfeiriedig newydd, nad yw'n rhan o'r penderfyniad presennol ac, yn sgil hynny, yr hysbysiad amrywio a thrwydded ddrafft gyfunol.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Pam mae eich barn yn bwysig

Rydym yn deall bod yr achos hwn o amrywio a chyfuno trwydded o ddiddordeb arbennig i'r cyhoedd a'r gymuned leol. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymgynghori â'r cyhoedd ar amrywiadau sylweddol ar gyfer gosodiadau.

Dyma'ch cyfle i weld yr hysbysiad amrywio drafft, y drwydded ddrafft, y ddogfen penderfyniad drafft a dogfennau ategol eraill ac ymateb i'n hymgynghoriad gyda'ch sylwadau. Gallwch weld y dogfennau ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein, ac mae’r ddogfen penderfyniad drafft a’r dogfennau trwydded ddrafft ar gael i’w gweld ar waelod y dudalen ymgynghori hon. Rydym hefyd wedi darparu un ddogfen gais isod yr ydym yn eu hystyried yn allweddol i'r penderfyniad hwn. Darperir dogfen cwestiynau cyffredin isod.

Digwyddiadau

  • Sesiwn galw heibio wyneb yn wyneb yn Neuadd Dref y Waun

    O 28 Meh 2022 at 14:00 i 28 Meh 2022 at 20:00

    Byddem yn cynnal dwy sesiwn galw heibio sydd wyneb yn wyneb. Gallwch archebu lle am 15 munud i siarad â'n staff sydd o fewn slot hanner awr. Bydd rhaid archebu apwyntiadau ar gyfer y sesiynau ymlaen llaw, erbyn 26 Mehefin 2022 fan bellaf, gan ddefnyddio’r ddolen isod.
    Os cewch drafferth gyda’r system archebu, gallwch ffonio 0300 065 3383 o fewn oriau swyddfa ac erbyn 24 Mehefin 2022 er mwyn trefnu apwyntiad.

    Yn ystod eich apwyntiad, byddwch yn cael y cyfle i godi unrhyw gwestiynau sydd gennych am y drwydded ddrafft a'r ddogfen penderfyniad. Fe gewch chi fwy o fudd o'ch apwyntiad os ydych chi wedi cael rhagolwg o'r dogfennau hyn, ynghyd â'n datganiad cyfranogiad y cyhoedd. Gall y dogfennau hyn ateb rhai o'ch cwestiynau neu ysgogi cwestiynau pellach.

  • Sesiwn galw heibio wyneb yn wyneb yn Neuadd Dref y Waun

    O 29 Meh 2022 at 10:00 i 29 Meh 2022 at 16:00

    Byddem yn cynnal dwy sesiwn galw heibio sydd wyneb yn wyneb. Gallwch archebu lle am 15 munud i siarad â'n staff sydd o fewn slot hanner awr. Bydd rhaid archebu apwyntiadau ar gyfer y sesiynau ymlaen llaw, erbyn 26 Mehefin 2022 fan bellaf, gan ddefnyddio’r ddolen isod.
    Os cewch drafferth gyda’r system archebu, gallwch ffonio 0300 065 3383 o fewn oriau swyddfa ac erbyn 24 Mehefin 2022 er mwyn trefnu apwyntiad.

    Yn ystod eich apwyntiad, byddwch yn cael y cyfle i godi unrhyw gwestiynau sydd gennych am y drwydded ddrafft a'r ddogfen penderfyniad. Fe gewch chi fwy o fudd o'ch apwyntiad os ydych chi wedi cael rhagolwg o'r dogfennau hyn, ynghyd â'n datganiad cyfranogiad y cyhoedd. Gall y dogfennau hyn ateb rhai o'ch cwestiynau neu ysgogi cwestiynau pellach.

Ardaloedd

  • Chirk North
  • Chirk South

Cynulleidfaoedd

Diddordebau

  • Trwyddedau