Rydyn ni’n parhau â’r gwaith sy’n mynd rhagddo a’r sgyrsiau cymunedol yn edrych ar sut i reoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Ynys Môn yn y dyfodol.
Mae aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid wedi bod yn cyfrannu at ddatblygiad Cynllun Pobl Niwbwrch a fydd yn arwain CNC a phartneriaid i reoli mynediad, gweithgareddau, yr amgylchedd naturiol, treftadaeth a diwylliant ar y safle.
Fe hoffem ddiolch i breswylwyr, ymwelwyr a grwpiau cymunedol a gymerodd ran mewn sesiynau galw heibio ym mis Mai a rhoi adborth ar-lein, gan ein helpu i gasglu tystiolaeth, meithrin perthnasoedd a deall yr hyn sy’n digwydd yn Niwbwrch.
Cafwyd barn ar nifer o bynciau gan gynnwys pryderon ynghylch mynediad a thraffig, presenoldeb gweladwy ar y safle, darparu gwybodaeth hawdd ei chyrraedd i helpu ymwelwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, cydbwyso anghenion ymwelwyr â chadwraeth, pwysigrwydd treftadaeth, hanes a diwylliant, yn ogystal â gwneud newidiadau bach er mwyn gwneud gwahaniaeth.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu i lywio fersiwn ddrafft o’r cynllun a fydd yn cael ei rannu gyda’r cyhoedd yn ddiweddarach eleni gyda mwy o gyfleoedd i rannu eich barn.
Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio cymunedol pellach er mwyn i aelodau’r cyhoedd gael dal ati i gyfrannu a rhannu eu profiadau.
Trwy feithrin gwell dealltwriaeth o sut mae pobl yn defnyddio ac yn gwerthfawrogi’r safle a’u hanghenion, gallwn ni a’n partneriaid weithio ar reoli perthynas y safle â’r gymuned gyfagos mewn ffordd gydweithredol.
Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod pawb yn cael profiad cystal â phosibl gan hefyd barchu, gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol, yr ardal leol, a buddiannau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno.
Gwyddom fod Niwbwrch yn bwysig i’r gymuned leol, rhanddeiliaid ac ymwelwyr felly mae’n hanfodol eich bod yn cymryd rhan yn y ffordd y caiff ei reoli.
Bydd Cynllun Pobl ar gyfer Niwbwrch yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau eraill, gan weithio tuag at ffordd integredig o reoli’r safle a deall cysylltiadau â’r ardal ehangach.
Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain, felly rydym yn gweithio gyda’r gymuned, rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol fel Cyngor Sir Ynys Môn i gael eu barn ar sut y gallwn ddatblygu’r cynllun hwn.
Trwy ddull cydweithredol a chynhwysol o gynllunio, byddwn yn datblygu cynllun cynaliadwy a llwyddiannus ar gyfer rheoli’r lle unigryw a gwerthfawr hwn.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy chwilio am ‘Cynllun Pobl Niwbwrch’ ar-lein, ac os hoffech chi rannu eich barn gyda ni, gallwch chi wneud hynny drwy e-bostio niwbwrch@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Share
Share on Twitter Share on Facebook