Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Lleoliad a Gosodiad
Mae Cynllun Adnoddau Coed Talbot yn cynnwys dau ddarn mawr o goetir sy’n gysylltiedig ag ardal adeiledig Llansawel/Port Talbot/Baglan, sy’n gorwedd yn llwyr o fewn ffiniau awdurdod unedol Castell-nedd Port Talbot.
Ceir elfennau cyffredin rhwng y ddwy goedwig, Coed-y-Darren a Mynydd Dinas – 182 hectar a 133 hectar yn eu trefn – gan fod y ddwy’n agos at drefi mawr, bod llawer iawn o’r cyhoedd yn cael mynediad anffurfiol atynt, a bod yno amrywiaeth o goed llydanddail a chonwydd y gellir cynhyrchu pren ohonynt.
Mae’r dirwedd o amgylch yn gymysgedd o ffermdir caeëdig, coetiroedd cynhyrchiol a glaswelltir lled-naturiol.
Crynodeb o’r Amcanion
Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau, yn ogystal â’r buddion y maent yn eu darparu:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Coed Talbot er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Share
Share on Twitter Share on Facebook