Arolwg Hinsawdd a Natur Gwent

Ar gau 7 Chwef 2024

Wedi'i agor 11 Ion 2024

Trosolwg

Hoffai Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (BGC) siarad â phartneriaid a chymunedau ledled Gwent sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae Cynllun Llesiant BGC Gwent yn nodi’r hyn y byddwn yn ei wneud yn y 5 mlynedd nesaf i wella llesiant pobl yng Ngwent: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Mae’r arolwg hwn yn rhan o waith y BGC tuag at gyflawni’r Cynllun Llesiant.

Rydym eisiau cydnabod, dathlu ac adeiladu ar y prosiectau llwyddiannus ledled Gwent. Nod yr arolwg yw darganfod pa grwpiau cymunedol, sefydliadau, busnesau a chyrff cyhoeddus yng Ngwent sy’n ariannu, cynllunio neu gyflawni prosiectau i:

  • helpu i leihau allyriadau carbon
  • ein helpu i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd
  • gwella'r ffordd rydym yn teithio
  • gwella ein ffordd o dyfu bwyd a'r hyn rydym yn ei fwyta
  • helpu pobl i elwa o fod ym myd natur
  • gofalu am yr amgylchedd naturiol.

Mae’r BGC yn gobeithio gweithio gyda phrosiectau ar draws Gwent i wella lles i bawb. Gallai hyn gynnwys cysylltu prosiectau ar draws y rhanbarth, ail-greu prosiectau llwyddiannus mewn rhannau eraill o Went, rhannu syniadau a dysgu o brofiadau prosiectau’r gorffennol ynghyd ag arfer da a ddangoswyd mewn prosiectau cyfredol. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhannu gyda ni yma yn eich helpu i greu cynllun cyflawni BGC ar gyfer gweithio ledled Gwent i wella lles.

Bydd canlyniadau’r arolwg hwn hefyd yn helpu’r BGC i nodi enghreifftiau allweddol o arfer da yng Ngwent y gellid eu harddangos mewn digwyddiadau fel Diwrnod Amgylchedd y Byd ac Wythnos Hinsawdd Cymru.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yn cynnal yr arolwg hwn ar ran y BGC, a bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu rhannu â’n partneriaid BGC.

 

 

Ychydig o wybodaeth ddefnyddiol cyn i chi ddechrau'r arolwg:

 

  • Drwy gydol yr arolwg rydym yn holi am 'Brosiectau'. Rydym yn defnyddio’r term hwn i gynnwys popeth o syniadau ar gyfer prosiectau hyd at brosiectau a gwblhawyd, ynghyd â rhaglenni, ymgyrchoedd, cynlluniau ac ati.
  • Dylech fod wedi derbyn dogfen Word i gyd-fynd â'r ddolen i’r arolwg hon fel y gallwch weld yr holl gwestiynau gyda'i gilydd.  Os nad ydych wedi derbyn y ddogfen ac yn dymuno cael copi, cysylltwch â (southeast.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk)
  • Ceir 20 cwestiwn, ond ni fydd angen i chi ateb pob un. Mae 9 ohonynt yn wirfoddol, felly a rhannwch unrhyw wybodaeth fel y gallwch.
  • Nid oes angen i chi gwblhau’r arolwg i gyd ar unwaith, gallwch arbed eich atebion a dychwelyd yn ddiweddarach i gwblhau’r arolwg.
  • Dylai gymryd .....munud i gwblhau'r arolwg hwn.
  • Os hoffech sôn am fwy nag un prosiect, cwblhewch arolwg ar wahân ar gyfer pob un.
  • Mae'r arolwg hwn yn cau ar ...

 

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Gwent

Diddordebau

  • Gwent