Ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2024 - 2028

Ar gau 12 Ion 2024

Wedi'i agor 15 Rhag 2023

Trosolwg

Trosolwg

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff rhestredig fel ni adolygu eu hamcanion cydraddoldeb presennol o leiaf bob pedair blynedd.

Mae Amcanion Cydraddoldeb yn nodau mae sefydliadau'n eu gosod, ac mae'n ofynnol iddynt gael eu cyhoeddi, ochr yn ochr â'n hamcanion diwygiedig nesaf a'r camau rydym yn bwriadu eu cymryd i'w cyflawni, erbyn 1 Ebrill 2024.

Nod yr amcanion yw sicrhau bod sefydliadau cyhoeddus yn ystyried sut y gallwn gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy:

  • Gael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac unrhyw ymddygiad arall sy'n cael ei wahardd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal ymhlith pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt yn rhannu nodwedd o'r fath.
  • Maethu perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn rhannu nodwedd o'r fath.

Pam rydym yn ymgynghori

Diben yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am eich mewnbwn a'ch safbwyntiau i lunio a llywio ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-2028.

Datblygwyd themâu ac amcanion Cyfoeth Naturiol Cymru / Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 gyda sefydliadau cyhoeddus eraill fel rhan o Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru, ac maent yn rhan o'n Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2025.

Mae'r amcanion hyn yn dal i fod yn bwysig ac yn berthnasol i'n gwaith a byddant yn cyfrannu'n sylweddol at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau fel y nodir yn adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' (2018). Bydd 'A yw Cymru'n Decach?' (2023) yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023. Hoffem wybod a ydych chi'n credu bod angen cynnwys unrhyw beth arall.

Amcanion Cydraddoldeb Strategol

Mae ein 5 Amcan Cydraddoldeb Strategol hirdymor a rennir tuag at "gymdeithas decach a Chymru fwy cyfartal" wedi’u nodi isod:

1. Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu

Canlyniad hirdymor - Bydd ein sefydliad yn adlewyrchu amgylchedd teg a chynhwysol, ble gall pawb deimlo’n werthfawr a chael yr un cyfleoedd i wireddu eu potensial yn y sefydliad.

2. Dileu bylchau cyflog

Canlyniad hirdymor - Datgelu gwybodaeth yn rhan o ddiwylliant y sefydliad, staff yn deall pam bod data yn cael ei gasglu, sicrhau mai dim ond data sydd ei angen sydd yn cael ei goladu (GDPR).

3. Ymgysylltu â’r gymuned

Canlyniad hirdymor - Byddwn yn ymgysylltu'n weithredol gyda chymunedau amrywiol ledled Cymru yng ngwaith ein sefydliadau. Bydd strategaethau, polisïau a phenderfyniadau yn cael eu cydgynhyrchu gydag unigolion amrywiol. Bydd profiadau a safbwyntiau pobl yn siapio ein sefydliadau.

4. Sicrhau bod cydraddoldeb yn rhan o'r broses gaffael / comisiynu ac yn cael ei reoli drwy'r broses ddarparu drwyddi draw

Canlyniad hirdymor - Mae cydraddoldeb wedi'i ymgorffori yn yr egwyddorion caffael sy'n weithredol ac y mae tystiolaeth ohonynt.

5. Sicrhau bod darparu gwasanaethau yn adlewyrchu anghenion unigol

Canlyniad hirdymor - Pobl ac arferion da a rennir yn dylanwadu'n weithredol ar ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigol.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Equality, Diversity and Inclusion

Diddordebau

  • Equality, Diversity and Inclusion