Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i ddarganfod atebion i reoli perygl llifogydd hirdymor ar gyfer cymuned Pwllheli, ochr yn ochr â darparu cyfleoedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach.
Mae rhannau o Bwllheli mewn perygl o lifogydd o afonydd a’r môr. Rhagwelir y gallai perygl llifogydd yn y dyfodol, yn enwedig o’r arfordir, fod yn sylweddol.
Wrth i’n hinsawdd newid, byddwn yn wynebu stormydd amlach, yn ogystal â lefelau’r môr yn codi. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a gallai effeithio ar y ffordd y maent yn perfformio.
Mae cynnal lefel yr amddiffyniad rhag llifogydd sy’n bodoli heddiw i bobl a chartrefi yn her.
Mae hwn yn brosiect sylweddol sy’n mynd i’r afael â’r heriau o reoli llifogydd o afonydd a’r môr. Rydym yn parhau i archwilio opsiynau i reoli perygl llifogydd hirdymor yn fwy effeithiol i Bwllheli a chymunedau cyfagos. Mae’r gwaith yn adeiladu ar brosiectau blaenorol ac yn cynnwys asesu amrywiaeth o opsiynau hirdymor i leihau’r perygl o lifogydd o afonydd a môr i’r gymuned leol. Rydym wedi ystyried amrywiaeth o ffactorau ar gyfer yr opsiynau rydym yn eu hystyried, megis cynaliadwyedd, hyfywedd a fforddiadwyedd.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda natur ac archwilio cyfleoedd i greu cynefinoedd newydd, gwella’r bioamrywiaeth yn yr ardal a darparu manteision ehangach i’r gymuned leol. Ers yr ymgynghoriad diwethaf, mae’r tîm wedi bod yn gweithio i asesu’r opsiynau ar y rhestr hir a datblygu rhestr fer i fwrw ymlaen â’r gwaith. Rydym am weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i atebion a all gynnig dyfodol cynaliadwy i Bwllheli.
Yn y digwyddiad galw heibio diweddaraf a gynhaliwyd ym Mhlas Heli, Pwllheli ym mis Tachwedd 2023, cyflwynwyd rhestr hir o opsiynau ynghyd â rhestr fer arfaethedig. Mae'r wybodaeth hon yn dal i fod ar gael ar y dudalen hon isod.
Mae'r opsiynau ar y rhestr fer bellach yn cael eu cadarnhau a byddant yn cael eu datblygu ar gyfer gwerthusiad manylach yn ystod cam nesaf y prosiect.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Mae cam presennol yr adborth ar gyfer y prosiect hwn wedi dod i ben. Bydd cyfleoedd pellach i roi adborth wrth i’r prosiect ddatblygu a byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid.
Mae Cynlluniau Rheoli Traethlin (SMP2s) yn ymatebion polisi i newidiadau amgylcheddol. Maent yn darparu’r fframwaith ar gyfer rheoli effaith hirdymor llifogydd llanwol ledled Cymru.
Maent yn rhannu’r arfordir yn adrannau llai a elwir yn ‘unedau polisi’ ac yn esbonio sut y dylai pob uned gael ei rheoli yn y tymor byr, canolig a hir, gan ystyried cynaliadwyedd gweithgareddau ac asedau rheoli perygl llifogydd a blaenoriaethau ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd.
Lle mae strwythurau artiffisial wedi’u hadeiladu i amddiffyn cymunedau a thir rhag llifogydd ac erydu arfordirol, megis morgloddiau neu waliau cynnal creigiau, gall y cynefin gael ei atal rhag symud tua’r tir wrth i lefelau’r môr godi, ac mae’n parhau i gael ei golli o’r lan isaf. Cyfeirir at hyn fel ‘gwasgfa arfordirol’.
Mae gwasgfa arfordirol yn golygu bod maint a swyddogaeth y morfa heli yn lleihau dros amser, ynghyd â’r cynefinoedd a’r rhywogaethau y maent yn eu cynnal.
Mae llawer o gynefinoedd morfa heli wedi’u gwarchod yn gyfreithiol, felly mae’n ofynnol i ni greu morfa heli newydd i wrthbwyso colledion yn y dyfodol pan fydd lefel y môr yn codi.
Efallai bod tirfeddianwyr a ffermwyr wedi sylwi bod yr amgylchedd yn newid ac rydym am glywed eich pryderon a’ch syniadau o ran addasu.
Mae ardal yr astudiaeth yn ffurfio cyfuniad pwysig o gynefinoedd arfordirol a gwlyptir sy’n gweithredu fel coridorau gwyrdd i gefn gwlad cyfagos.
Adlewyrchir pwysigrwydd amgylcheddol yr ardal hon yn y nifer fawr o gynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig.
Mae llawer o’r rhain o bwysigrwydd Cenedlaethol a Rhyngwladol ac mae’r rhain hefyd yn cael eu bygwth gan effeithiau llifogydd a’r newid yn yr hinsawdd.
Mae ardal yr astudiaeth yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden amrywiol.
Bydd y rhain hefyd yn cael eu hystyried yn ofalus, gan eu bod o bwysigrwydd mawr i iechyd a lles pobl, a hefyd yn dod ag incwm i’r gymuned.
Mae gan yr ardal o amgylch Pwllheli hanes hir a diddorol. Mae Pwllheli ei hun wedi bod yn anheddiad ers y 13eg Ganrif, gyda chysylltiad cryf â’r môr fel prif borthladd pysgota Pen Llŷn.
Fodd bynnag, mae’r arfordir yma wedi newid yn sylweddol dros amser. Dros y 150 mlynedd diwethaf, bu datblygiad ac ymyrraeth sylweddol gan bobl.
Bydd y camau hyn wedi effeithio ar ddatblygiad y draethlin yn ystod y cyfnod hwn, a byddant yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.
Er enghraifft, arweiniodd adeiladu’r rheilffordd at amgáu ardaloedd y gors ar hyd arfordir y dwyrain ac, yn sgil hynny, mae wedi cyfyngu ar allu’r twyni eu hunain i symud tua’r tir.
Bu newidiadau helaeth i Draeth De Pwllheli, gyda gwaith adfer tir wedi digwydd yn ystod y 19eg ganrif. Estynnwyd y rheilffordd ar draws cei’r gogledd i Bwllheli ym 1910, a arweiniodd at sefydlogi safle’r draethlin ym Mhwllheli ei hun.
Ym 1813, adeiladwyd arglawdd Pwllheli (Embankment Road) a gatiau llifogydd llanwol, gan gysylltu’r brif dref â Thraeth y De. Creodd hyn strwythur sylfaenol yr harbwr mewnol ac allanol sy’n bodoli heddiw, yn ogystal â chael effaith amlwg ar sut mae’r tir i’r gorllewin o fan hyn wedi addasu.
Mae angen ystyried harddwch naturiol rhagorol yr ardal yn ofalus gyda’i chysylltiad agos â Pharc Cenedlaethol Eryri wrth gynllunio prosiectau.
Gweler yr arddangosfwrdd ar gyfer Pwllheli - Y cyd-destun ehangach
Cyfoeth Naturiol Cymru yw corff amgylcheddol mwyaf Cymru.
Yn ogystal â rheoli perygl llifogydd, mae gennym lawer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol i sicrhau ein bod yn diogelu’r
amgylchedd rhagorol rydym yn byw ynddo nawr ac yn y dyfodol.
Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi dechrau cynnal nifer o arolygon arbenigol i’n helpu ni i ddeall cyflwr natur ar hyn o bryd.
Hon yw ein llinell sylfaen. Bydd asesiadau’r amgylchedd yn cael eu defnyddio i sicrhau bod yr holl gymeradwyaethau angenrheidiol ar waith ar gyfer unrhyw waith a wnawn.
Rhaid i ni: ddiogelu’r amgylchedd naturiol a hanesyddol, defnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy, chwilio am ffyrdd o osgoi’r Argyfyngau Hinsawdd ac Ecoleg.
Rydym wedi creu model llifogydd cyfrifiadurol i gyfrifo graddfeydd llifogydd a dyfnderoedd dŵr posibl o stormydd, ac rydym wedi cynnal arolygon amgylcheddol fel rhan o’n proses o gasglu tystiolaeth.
Rydym wedi bod yn asesu Rhestr Hir o opsiynau i greu Rhestr Fer arfaethedig, gan flaenoriaethu lleihau perygl llifogydd i bobl a chartrefi.
Mae nifer o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn bodoli yn ardal astudiaeth Pwllheli. Mae’r rhain yn cynnwys argloddiau, wal harbwr a gatiau mecanyddol mewn lleoliadau allweddol.
Drwy’r astudiaeth hon, rydym yn datblygu ein dealltwriaeth o’r perygl o lifogydd a swyddogaeth yr amddiffynfeydd fel y gallwn barhau i ddiogelu cartrefi a busnesau yn y tymor hir.
Gweler yr arddangosfwrdd ar gyfer Strwythurau amddiffyn rhag llifogydd
Mae’r perygl o lifogydd ar hyd yr arfordir yn cael ei ddylanwadu gan y broses arfordirol amlycaf sy’n siapio’r arfordir. Mae mwy o erydu yn rhoi pwysau ar yr amddiffynfeydd presennol, ac mae hyn yn arwain at fwy o risg y bydd amddiffynfeydd yn torri a lifogydd llanwol yn y pen draw.
Mae dal y llinell yn yr ardaloedd lle mae’r pwysau erydu presennol yn cynyddu’r posibilrwydd o erydu ar ardaloedd y naill ochr a’r llall i’r ardal warchodedig. Felly, mae’r opsiynau a gyflwynwyd yn canolbwyntio ar reoli ail-alinio’r ardaloedd hyn yn unol â’r Cynllun Rheoli Traethlin.
Opsiynau a gynigir ar gyfer y rhestr fer:
Opsiynau na chynigiwyd ar gyfer y rhestr fer:
Gweler yr arddangosfwrdd ar gyfer Perygl Llifogydd Arfordirol
Mae nifer o gyrsiau dŵr ac ardaloedd o ddiddordeb i’r gorllewin o Bwllheli. Yma mae tair prif afon sef Afon Rhyd-hir, Afon Penrhos ac Afon Dwyryd yn uno wrth agosáu at ymyl gorllewinol Pwllheli. Maen nhw’n parhau i lifo tuag at y dref fel Afon Rhyd-hir sy’n mynd i mewn i’r harbwr drwy gatiau llanw islaw Ffordd y Cob.
Mae perygl llifogydd o’r cyrsiau dŵr hyn yn deillio’n bennaf o’r afonydd yn cael eu cloi gan y llanw pan fydd y gatiau’n cau yn ystod llanw uchel. Pan fydd hyn yn cyd-daro â llif uchel mewn afonydd o ganlyniad i lawiad hir neu drwm mae lefelau dŵr yn yr afonydd yn cynyddu, gan orlifo i’r gorlifdir oddi amgylch. Gall hyn arwain at lifogydd sy’n effeithio ar bobl, ar eiddo a’r A499.
Opsiynau a gynigir ar gyfer y rhestr fer:
Opsiynau na chynigiwyd ar gyfer y rhestr fer:
Mae’r rhain yn opsiynau ychwanegol a fydd yn cael eu hystyried ar y cyd â’r prif opsiynau sy’n cyrraedd y rhestr fer.
Gweler yr arddangosfwrdd ar gyfer Perygl llifogydd o afonydd - Gorllewin
I’r dwyrain o Bwllheli mae Afon Erch yn llifo o bentref Abererch tua’r dref. Mae’r afon hon yn mynd i mewn i’r harbwr ar ei ochr ddwyreiniol, ar ôl mynd drwy’r giatiau llanw gerllaw Ffordd Abererch. Ym mhentref Abererch mae’r brif ardal perygl llifogydd o Afon Erch.
Mae strwythurau amddiffyn rhag llifogydd yn bodoli yma gan gynnwys arglawdd sy’n helpu i amddiffyn y pentref. Er hynny, mae perygl llifogydd yn dal i fodoli pan fydd y glannau yn gorlifo mewn digwyddiadau eithafol a allai ddigwydd yn amlach wrth i’r hinsawdd newid.
Opsiynau a gynigir ar gyfer y rhestr fer:
Opsiynau na chynigiwyd ar gyfer y rhestr fer:
Mae’r rhain yn opsiynau ychwanegol a fydd yn cael eu hystyried ar y cyd â’r prif opsiynau sy’n cyrraedd y rhestr fer.
Gweler yr arddangosfwrdd ar gyfer Perygl llifogydd o afonydd - Dwyrain
Dyma ganlyniadau'r prosiect sy'n hanfodol i gyflawni'r prosiect yn llwyddiannus ac sy'n wahanol i'r Amcanion sy'n nodi canlyniadau dyheadol
Ffit Strategol - Dylai’r opsiwn leihau’r perygl o lifogydd o’r môr a phrif afonydd yn sylweddol. Dylai gyd-fynd â’r strategaethau, y polisïau, a’r canllawiau rheoli perygl llifogydd perthnasol a sicrhau manteision ehangach i’r ardal leol.
Gwerth am Arian Posibl - Dylai’r opsiwn gyflawni cymhareb ‘cost – budd’ gadarnhaol. Dylai sicrhau arbedion effeithlonrwydd a lleihau costau sy’n gysylltiedig â gofynion cynnal a chadw a gweithredu yn y dyfodol.
Capasiti a Galluogrwydd Cyflenwyr - Rhaid i’r opsiwn gyfateb i gapasiti a gallu cyflenwyr posibl i’w gyflawni.
Fforddiadwyedd Posibl - Rhaid i’r opsiwn fodloni’r gofynion a chyflawni canlyniadau er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid drwy Gymorth Grant Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru. Dylai’r opsiwn ystyried cyfleoedd i ddarparu buddion i bartneriaid ariannu posibl.
Cyflawnadwyedd Posibl - Rhaid i’r opsiwn fod yn ffisegol bosibl i’w adeiladu o fewn y cyfyngiadau yn yr ardal. Rhaid i’r caniatadau perthnasol fod ar gael. Rhaid i’r Awdurdod Rheoli Risg allu bodloni anghenion rheoli a chynnal a chadw hirdymor yr opsiwn.
Mae amcanion buddsoddi'r prosiect wedi'u sefydlu trwy ddeialog gynnar â rhanddeiliaid ac fe'u cyflwynir yn y tabl canlynol. Mae'r amcanion buddsoddi hyn yn ddyheadol ac yn nodi 'lle rydym am fod' neu 'yr hyn rydym am ei gyflawni' ac nid ydynt wedi'u diffinio fel eu bod yn gosod terfynau ar yr hyn sy'n bosibl.
Mae sawl ardal o berygl llifogydd yn ardal yr astudiaeth sy’n gofyn am liniaru o ffynonellau afonol ac arfordirol. Felly, mae’r opsiynau penodol i leoliad wedi’u huno i greu rhestr fer o opsiynau cydnaws sy’n cwmpasu ardal yr astudiaeth.
Gall y cyfuniadau arfaethedig fod yn destun newid hyd nes y bydd canlyniadau terfynol yr asesiad Achos Amlinellol Strategol wedi dod i law.
Cyfuniad A:
Cyfuniad B:
Cyfuniad C:
Cyfuniad D:
Gweler yr arddangosfwrdd ar gyfer Cyfuniadau rhestr fer arfaethedig
Rydym am glywed gennych fel y gallwn ddeall ymhellach effaith llifogydd ym Mhwllheli a'r gymuned ehangach ac ystyried a datblygu opsiynau sy'n rheoli orau’r perygl llifogydd yn y dyfodol.
Nod y prosiect yw darparu ateb cynaliadwy sydd, yn y pen draw, yn lleihau'r perygl o lifogydd i gynifer o bobl a chartrefi â phosibl, nawr ac yn y dyfodol. Rydym hefyd eisiau archwilio cyfleoedd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach y gellir eu datblygu fel rhan o unrhyw opsiwn a ffefrir wrth symud ymlaen.
Mae cam presennol yr adborth ar gyfer y prosiect hwn wedi dod i ben. Bydd cyfleoedd pellach i roi adborth wrth i’r prosiect ddatblygu a byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid.
Share
Share on Twitter Share on Facebook