Prosiect adeiladu llwybr pysgod a llysywod Bontnewydd
Trosolwg
English version available here.
Pa waith sy'n digwydd?
Aseswyd cored Bontnewydd fel rhwystr i bysgod a llysywod yn Afon Gwyrfai. Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys:
- Amnewid y morglawdd creigiau yn union i lawr yr afon o'r gored i wella gallu pysgod i fudo i fyny'r afon.
- Gosod llwybr llysywod dros y gored trwy addasu ei harwynebedd i greu gorffeniad garw, wedi'i frwsio y gall llysywod afael ynddo.
- Atgyweirio rhan o’r wal adain ar y lan chwith, sy'n cael ei thanseilio.
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, gosodir argae ar draws hanner o sianel yr afon ar y tro, gan ganiatáu i'r afon barhau i lifo drwy'r rhan agored.
Bydd y rhan lle mae’r morglawdd creigiau yn cynnwys gosod clogfeini mewn gwely concrit. Bydd yn cael ei gastio mewn chwe adran, sy’n golygu y bydd y broses yn cymryd llawer o amser (gweler y llun isod).
Bydd y wal adain yn cael ei newid am wal newydd debyg unwaith y bydd yr holl waith arall yn y sianel wedi'i gwblhau.
Mae perchennog y tir a chynghorwyr lleol wedi cael gwybod am y gwaith hwn. Mae'r holl eiddo sydd â’u cefn at y man gwaith a'r llwybr mynediad i'r man gwaith wedi derbyn llythyr yn amlinellu'r prosiect a'i ddiben.
Argraff arlunydd o'r gwaith:
Pryd fydd y gwaith yn dechrau ac yn gorffen?
Y bwriad yw cychwyn y gwaith mynediad i'r safle ym mis Ebrill 2025, gyda gwaith yn y sianel yn dechrau ym mis Mai 2025. Disgwylir i'r holl waith gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2025. Fodd bynnag, oherwydd natur gweithio mewn cyrsiau dŵr a chyfyngiadau tywydd posibl, gall y dyddiadau hyn newid.
Gwneir ymdrechion i gadw sŵn i'r lefel leiaf posibl. Er enghraifft, bydd lefel y sŵn yn cael ei lleihau ar unrhyw bympiau a ddefnyddir. 8am tan 6pm fydd yr oriau gwaith, ac nid oes unrhyw waith wedi'i gynllunio ar gyfer penwythnosau, oni bai fod yna argyfwng oherwydd materion yn ymwneud â'r tywydd.
Ble fydd y gwaith yn digwydd?
Bydd y gwaith yn cael ei wneud ar gored fesur Afon Gwyrfai ac ardal y ramp creigiau yn union i lawr yr afon. Bydd yr holl waith yn cael ei wneud naill ai o'r lan chwith neu o fewn y sianel.
Bydd y gweithwyr yn cyrraedd y safle trwy giât newydd oddi ar Digbeth Terrace.
Pwy sy’n gwneud y gwaith?
Y contractwr ar gyfer y gwaith hwn yw William Hughes (Peirianneg Sifil) Cyf.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu ar y dudalen we hon wrth i’r prosiect fynd rhagddo. Ar gyfer ymholiadau, gellir cysylltu â thîm y prosiect trwy e-bost ar:
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Fel arall, gallwch ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 a gadael eich manylion i gael galwad yn ôl.
Cysylltwyd eisoes â phreswylwyr a busnesau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Ochr yn ochr â’n contractwyr, byddwn yn parhau i ymgysylltu â thirfeddianwyr yn unigol i gynllunio’r gwaith a lleihau aflonyddwch.
-
Ardaloedd
- Bontnewydd
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Management
- Woodland Opportunity Map users
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- River restoration
- Adfer afonydd
- Water Resources
- Educators
- SoNaRR2020
- Designated Landscapes
- Tirweddau dynonedig
- Mine recovery specialists
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Coastal Group Members
- Wales Biodiversity Partnership
- Equality, Diversity and Inclusion
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Llais Rheoleiddio
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook