Creu Coetir yn Nhyn y Mynydd

Ar gau 21 Meh 2022

Wedi'i agor 24 Mai 2022

Trosolwg

Rydym ni’n gofyn am farn i helpu i lunio’r dyluniad ar gyfer coetir newydd yn Nhyn y Mynydd, Ffordd Penmynydd, Ynys Môn.  

Prynwyd y tir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gynharach eleni, fel rhan o brosiect ehangach i gynyddu gorchudd coetir ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru a chyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Bydd y safle’n cael ei blannu gyda chymysgedd o goed llydanddail i sicrhau bod y coetir newydd yn amrywiol ac yn gallu gwrthsefyll effeithiau plâu, clefydau a newid yn yr hinsawdd.

Bydd y coetir newydd yn rhan o fenter blannu Canopi Gwyrdd y Frenhines a disgwylir i'r gwaith plannu ddechrau yn nhymor yr Hydref eleni.

Beth yw testun yr ymgynghoriad?

Rydym ni eisiau ymgysylltu gyda’n cymdogion, cymunedau lleol a’n partneriaid i gynllunio a dylunio’r coetir, a’i siapio i fod yn fan diogel a hygyrch y bydd preswylwyr lleol ac ymwelwyr yn gallu ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn ceisio sicrhau bod unrhyw effeithiau posibl ar yr ardal gyfagos yn cael eu hystyried a chynnig cyfle i bobl gynnig syniadau am sut y gallant gymryd rhan yn y gwaith cynllunio a rheoli’r coetir newydd at y dyfodol.

Creu Coetir

Mae coetiroedd yn darparu ystod eang o fuddion – o helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy storio carbon, i ddarparu cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt, darparu mannau hamdden yn yr awyr agored i bobl allu eu mwynhau, arafu dŵr llifogydd a helpu i leihau llygredd dŵr, creu cyflogaeth a chefnogi bywoliaeth trigolion gwledig wrth ofalu am y coetiroedd a’u rheoli’n weithredol.  

Mae creu’r coetir hwn yn rhan o’n Rhaglen Creu Coetir ehangach, a sefydlwyd i gyfrannu at greu coetiroedd newydd a phlannu coed yng Nghymru, i gefnogi ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Fel yr holl goetir ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, bydd yn darparu adnodd cyhoeddus gyda mynediad agored ac yn cael ei reoli i fodloni Safon Coedwigaeth y DU a Safon Sicr Coetiroedd y DU.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad byr a rhannwch eich adborth gyda ni ar y cynlluniau ar gyfer y safle, a gadewch i ni wybod sut y byddech yn hoffi cael eich cynnwys yn y dyfodol

Ardaloedd

  • Menai (Bangor)

Cynulleidfaoedd

Diddordebau

  • Consultation