Sut rydym yn rheoleiddio Safle Tirlenwi Hafod, Wrecsam
Trosolwg
English version available here
Adrodd problem o Safle Tirlenwi Hafod, Wrecsam
Er mwyn adrodd problemau o Safle Tirlenwi Hafod, Wrecsam, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 065 3000 neu adroddwch ar-lein yma.
Rydym ni’n cymryd hyn o ddifrif
Byddwch yn dawel eich meddwl ein bod yn cymryd pob adroddiad o ddifrif ac yn canolbwyntio ein holl ymdrechion ar fynd i'r afael â'r materion a godwyd.
Beth rydym yn ei wneud i reoleiddio'r safle
Rydym yn deall pryder y gymuned leol ynghylch y materion arogl yn Johnstown.
Mae ein swyddogion yn cynnal ymweliadau rheolaidd â’r safle, gan gyflawni asesiadau arogl oddi ar y safle i sicrhau bod gweithrediadau'r safle tirlenwi yn unol â'u Trwydded Amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys amodau caeth sy’n ymwneud ag allyriadau arogl. Mae gweithredwr y safle yn gweithio i wella’r defnydd o nwy tirlenwi, a ddylai helpu i leihau allyriadau arogl. Yn ogystal, rydym yn adolygu gweithdrefnau rheoli diweddaraf y safle a’r cynllun gweithredu newydd a gyflwynwyd.
O dan amodau'r Drwydded Amgylcheddol, os yw’r gweithredwr yn cymryd mesurau priodol i reoli arogl, nid oes toriad ar y drwydded yn digwydd, hyd yn oed os oes rhywfaint o arogl yn parhau. Mae gweithredwr y safle wedi nodi mesurau priodol yn eu cynllun rheoli arogl i allyriadau; fodd bynnag, rydym yn deall bod effaith yn parhau i fod ar y gymuned. Rydym yn adolygu eu cynllun yn fanwl i benderfynu a oes angen unrhyw fesurau ychwanegol i liniaru arogleuon ymhellach.
Yn ogystal, byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr o Gyngor Wrecsam, sy’n arwain ar fonitro ansawdd aer ac yn sicrhau bod ansawdd aer yn cwrdd â’r safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth i’w helpu gyda’r monitro y maent yn penderfynu ei gynnal.
Yn olaf, er mwyn diweddaru’r gymuned, byddwn yn lansio tudalen we newydd yn fuan. Bydd hyn yn galluogi CNC ac Enovert i ddarparu diweddariadau, ateb cwestiynau cyffredin, a chynnal llinell cyfathrebu agored ynghylch gweithgareddau’r safle.
Rydym yn parhau i annog trigolion i adrodd unrhyw arogl sy'n dod o’r safle tirlenwi drwy gysylltu â ni ar 0300 065 3000 neu drwy’r ffurflen ‘Adroddwch’ ar ein gwefan. Mae’r adroddiadau yn hynod bwysig wrth ein helpu i fonitro a mynd i’r afael â’r pryderon hyn yn effeithiol.
Cylchlythyr
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr rheolaidd newydd am sut rydym yn rheoleiddio Safle Tirlenwi Hafod.
Data personol
Bydd unrhyw ddata personol a gyflwynir yn cael ei gadw’n ddiogel. Mae gennych yr opsiwn i aros yn ddienw, fodd bynnag, er mwyn derbyn diweddariadau rheolaidd ynghylch Safle Tirlenwi Hafod, rydym yn argymell eich bod yn darparu cyfeiriad e-bost.
Cwestiynau Cyffredin
Pam mae safle tirlenwi Hafod yn drewi?
Bydd gan weithrediadau tirlenwi arogleuon cyfnodol bob amser ond ni ddylai hwn fod yn ddigwyddiad parhaus. Mae dwy brif ffynhonnell arogleuon mewn safle tirlenwi:
- Gall y gwastraff, wrth iddo gael ei ollwng, gynhyrchu arogl fel bin sbwriel cartref.
- Nwyon a gynhyrchir gan y gwastraff yn diraddio dros amser.
Pan fydd gwastraff yn cael ei waredu ar y safle, caiff ei wneud fesul cam (a elwir yn gelloedd). Unwaith y bydd cell yn llawn gwastraff, caiff ei chapio (ei selio) gyda gorchudd anathraidd. Mae hyn yn atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i'r gell ac yn helpu i gasglu'r nwy tirlenwi a gynhyrchir pan fydd y gwastraff yn dechrau dadelfennu.
Mae nwy tirlenwi fel arfer yn cynnwys methan (tua 65%) a charbon deuocsid (35%), nad ydynt yn nwyon aroglus. Yn nodweddiadol, bydd ystod o gyfansoddion eraill ar grynodiadau cymharol isel o fewn y nwy tirlenwi a elwir yn nwyon hybrin. Gall y nwyon hybrin hyn gynnwys sylweddau sy'n achosi i nwy tirlenwi fod yn aroglus, fel hydrogen sylffid (H2S). Nwy hybrin yw hydrogen sylffid a all achosi’r arogl 'wyau pydredig'; gellir ei arogli ar grynodiadau llawer is na'r lefelau a all achosi niwed. Bydd unrhyw nwyon wedi'u gwanhau'n sylweddol erbyn iddynt gael eu harogli o fewn yr ardal leol, ac mae'n annhebygol iawn y byddant yn effeithio ar iechyd pobl.
Gall arogleuon nwy tirlenwi fod yn ganlyniad i sawl ffactor: gall rhai o'r rhain fod o ganlyniad i fethiannau o ran rheoli, mae eraill yn ganlyniad i waith arfaethedig ac angenrheidiol megis gosod seilwaith echdynnu nwy newydd.
Pam mae'r arogl yn mynd a dod?
Mae arogleuon yn ganlyniad rhyngweithiadau cymhleth o fewn y safle. Mae p'un a ellir eu harogli oddi ar y safle, a ble y cânt eu harogli, yn aml yn ganlyniad i amodau tywydd lleol. Os sylwch ar yr arogl un diwrnod ond nid y diwrnod nesaf, gallai hyn fod oherwydd newid mewn tymheredd neu gyflymder neu gyfeiriad y gwynt, neu newid mewn gwasgedd atmosfferig. Er enghraifft, bydd nwyon bob amser yn symud tuag at ardal o wasgedd is ac, o ganlyniad, rydym yn fwy tebygol o glywed arogleuon pan fydd y gwasgedd atmosfferig yn isel neu'n disgyn. Yn yr un modd, ar ddiwrnodau oerach neu lonydd, nid yw'r arogleuon yn cael eu gwasgaru mor gyflym, sy'n golygu ein bod yn fwy tebygol o glywed arogleuon.
Sut ydych chi'n rheoleiddio arogleuon oddi ar y safle o'r safle tirlenwi?
Mae’r drwydded yn cynnwys amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr atal arogleuon oddi ar y safle neu, lle nad yw hynny’n bosibl, eu cadw i’r lleiafswm posibl. Bydd y gweithredwr yn disgrifio sut y bydd yn cyflawni hyn mewn dogfen o'r enw Cynllun Rheoli Arogleuon.Rhaid cadw'r Cynllun Rheoli Arogleuon yn gyfredol ac asesir pob adolygiad gan ein swyddogion i sicrhau ei fod yn cwmpasu'r holl feysydd gweithredu allweddol mewn perthynas â rheoli arogleuon. Mae swyddogion yn asesu cydymffurfedd â’r amod ynghylch arogleuon trwy wneud y canlynol:
- Dilysu presenoldeb, math a chryfder arogleuon yng nghyffiniau safle a ganiateir
- Nodi a yw’r safle yn ffynhonnell debygol yr arogl ac, os caiff ei brofi, mynd ar y safle i bennu achosion unrhyw arogleuon ac a yw’r gweithredwr yn cymryd mesurau priodol i reoli’r arogl
Mae swyddogion yn cynnal ymchwiliadau i arogleuon (gan gynnwys asesiadau arogl oddi ar y safle) yn unol â'n canllawiau a thrwy gyfeirio at ganllawiau rheoli arogleuon cyhoeddedig.
Mae cryfder arogl yn disgrifio pa mor gryf yw arogl fel y'i synhwyrir gan swyddog unigol. Rydym yn cofnodi cryfder arogl gan ddefnyddio graddfa o 0 i 6, lle mae 0 = dim arogl, 3 = arogl amlwg a 6 = arogl cryf iawn. Bydd torri amodau trwydded ond yn cael ei gofnodi yn yr amgylchiadau canlynol:
- Mae arogl oherwydd gweithgareddau ar y safle ar lefel sy'n debygol o achosi llygredd y tu allan i ffin y safle ac mae hyn yn cael ei gadarnhau gan swyddog, ac
- Nid yw'r gweithredwr yn cymryd pob cam priodol i reoli'r arogl hwnnw.
Os yw'r gweithredwr yn cymryd mesurau priodol, yna ni thorrwyd amodau’r drwydded, hyd yn oed os oes rhywfaint o arogl. Byddem yn disgwyl i'r gweithredwr nodi mesurau priodol yn ei Gynllun Rheoli Arogleuon, ond efallai y bydd angen mesurau ychwanegol arnom os bydd llygredd arogl difrifol yn digwydd.
Rhoddir gwybod i'r gweithredwr am unrhyw adroddiadau o arogleuon a gawn sy'n berthnasol i’r safle, ond nid ydym yn rhyddhau data personol, felly ni allant adnabod yr unigolion sy’n rhoi'r adroddiadau hyn. Disgwylir i'r gweithredwr ymateb i adroddiadau o arogleuon yn unol â'i Gynllun Rheoli Arogleuon ar gyfer y safle, ac i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau canlyniadol i weithrediadau.
A yw’r arogl yn niweidiol i iechyd?
Pryd bynnag y bydd pobl yn poeni am eu hiechyd personol, dylent ymweld â’u meddyg teulu neu gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 111 neu drwy ei wefan Hafan – GIG Cymru.
Sut rydym yn asesu cydymffurfedd
Ein rôl ni yw asesu cydymffurfedd â'r trwyddedau a chymryd camau rheoleiddio priodol os byddwn yn nodi unrhyw achosion o dorri amodau. Gwnawn hynny drwy gyfeirio at ein polisi gorfodi ac erlyn, a chan roi sylw priodol i God y Rheoleiddwyr.
Mae ein tîm rheoleiddiol yn asesu cydymffurfedd ag amodau trwydded safle tirlenwi Hafod mewn sawl ffordd, gan gynnwys arolygiad o’r safle, archwilio, asesiadau o arogleuon oddi ar y safle, ac adolygu adroddiadau a data monitro.
Rydym yn codi ffioedd parhau ar bob deiliad trwydded, sy'n talu am gost y gweithgareddau rheoleiddiol arferol hyn. Nid yw ffioedd parhau yn cynnwys darparu presenoldeb cyson swyddog ar unrhyw safle a ganiateir.
Defnyddir Adroddiad Asesu Cydymffurfedd i gofnodi canfyddiadau ein harolygiadau o safleoedd, archwiliadau a gweithgareddau monitro, adolygiadau monitro, a data/adroddiadau eraill. Rydym yn defnyddio ein canllawiau ar asesu a sgorio cydymffurfedd â thrwyddedau amgylcheddol i sgorio achosion o dorri amodau trwyddedau yn unol â'n Cynllun Dosbarthu Cydymffurfedd. Mae'r categori risg a'r sgôr a roddwn ar gyfer peidio â chydymffurfio yn adlewyrchu'r effaith bosibl y gallai ei chael pe na bai'n cael sylw prydlon a digonol. Yr unig eithriad yw ar gyfer achosion o beidio â chydymffurfio sy'n ymwneud ag amodau amwynder – arogl, llwch, sŵn a phlâu. Rydym yn categoreiddio’r risg ac yn sgorio’r rhain yn ôl eu heffaith wirioneddol (yn hytrach na’r effaith bosibl). Mae pedwar categori risg o ran peidio â chydymffurfio. Mae pob categori risg yn cael ei sgorio. Mae'r sgoriau'n cael eu cronni yn ystod y flwyddyn gydymffurfedd. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn sgorio achosion o dorri amodau trwyddedau, a sut mae hyn yn effeithio ar ffioedd parhau blynyddol y safle, wedi’i nodi yn ein canllawiau ar ein cynlluniau codi tâl.
Pryd mae'r safle i fod i gwblhau gweithrediadau a chau yn barhaol?
Y caniatâd cynllunio presennol ar gyfer y gwaith gwastraff yw Rhif Cais: 6/18883 (PP016-99-003), a ganiatawyd ar apêl ar 10 Gorffennaf 1995. Mae Amod 4 yn nodi:
Bydd y gweithrediadau tirlenwi a ganiateir drwy hyn yn dod i ben o fewn 55 mlynedd i ddyddiad cychwyn y datblygiad. Rhaid nodi dyddiad terfynu gweithrediadau tirlenwi (yn cynnwys mewnforio a dyddodi gwastraff) i'r awdurdod cynllunio mwynau o fewn wythnos i'r dyddiad a nodir.
Dechreuodd y gwaith o ddatblygu’r safle tirlenwi yn 2006 ac felly mae gan y safle ganiatâd cynllunio tan 2061.
Rydym yn deall pryder y gymuned leol ynghylch y materion arogl yn Johnstown.
Mae ein swyddogion yn cynnal ymweliadau rheolaidd â’r safle, gan gyflawni asesiadau arogl oddi ar y safle i sicrhau bod gweithrediadau'r safle tirlenwi yn unol â'u Trwydded Amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys amodau caeth sy’n ymwneud ag allyriadau arogl. Mae gweithredwr y safle yn gweithio i wella’r defnydd o nwy tirlenwi, a ddylai helpu i leihau allyriadau arogl. Yn ogystal, rydym yn adolygu gweithdrefnau rheoli diweddaraf y safle a’r cynllun gweithredu newydd a gyflwynwyd.
Ardaloedd
- Johnstown
Cynulleidfaoedd
- Citizens
Diddordebau
- Trwyddedau
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook