Sut rydym yn rheoleiddio safle Kronospan, Y Waun

Yn cau 14 Tach 2025

Wedi agor 8 Tach 2024

Trosolwg

English version available here.

Rydym yn deall lefel y pryder yn y gymuned leol ac rydym am sicrhau pobl ein bod yn cymryd pob digwyddiad a adroddir i ni o ddifrif.

Rydym yn ystyried pob digwyddiad sy’n gysylltiedig â Kronospan gan breswylwyr lleol, gan ofyn i’r gweithredwr ymchwilio ac adrodd yn ôl ar bob adroddiad.

Rydym yn parhau i sicrhau bod y safle yn cydymffurfio â’i drwydded amgylcheddol sydd yno i ddiogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl.

Ers i ni ddod yr unig rheoleiddwr, rydym wedi goruchwylio dros 20 o amodau gwelliant i sicrhau bod y safle’n lleihau'r effaith ar y gymuned leol a’r amgylchedd. 

Fodd bynnag, mae gwelliannau pellach i'w gweithredu gan y gweithredwr i leihau unrhyw faterion llwch ac arogl. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r gweithredwr i sicrhau bod y camau hyn yn cael eu cymryd cyn gynted â phosib.

Cefndir 

Mae Kronospan Limited wedi bod yn gweithredu ffatri gweithgynhyrchu byrddau panel pren yn y Waun ers blynyddoedd lawer.  

Er mwyn gweithredu’r ffatri gweithgynhyrchu’n gyfreithlon, rhaid i Kronospan feddu ar drwydded amgylcheddol yn unol â Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.  

Yn flaenorol, rhannwyd y gwaith o reoleiddio’r ffatri gweithgynhyrchu rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (sydd bellach wedi’i chynnwys o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru). 

Yn dilyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018, cyfunodd Cyfoeth Naturiol Cymru y ddwy drwydded bresennol yn un. Cyhoeddwyd y drwydded gyfunol ym mis Hydref 2023 ac, ers hynny, mae’r safle wedi’i reoleiddio gan Cyfoeth Naturol Cymru yn unig. 

Mae’r drwydded ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus, ac mae’n cynnwys nodyn rhagarweiniol sy’n disgrifio prif nodweddion y cyfleuster. Mae copi o’r drwydded gyfredol ar gael yma:

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Beth yw ein rôl? 

Yn ogystal â’n swyddogaeth drwyddedu ganolog, mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru lleol yn cynnal asesiadau cydymffurfedd rheolaidd er mwyn sicrhau bod amodau’r drwydded yn cael eu bodloni. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys ymchwilio i ddigwyddiadau, archwiliadau safle wedi’u cynllunio o flaen llaw a dirybudd, ac adolygu’r data monitro allyriadau ac adroddiadau eraill sy’n ofynnol gan y drwydded. Mae’r holl wybodaeth hon ar gael i’w gweld ar ein cofrestr gyhoeddus. 

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd camau gweithredu os yw’n amau bod deiliad trwydded wedi torri amod trwydded neu wedi torri’r gyfraith. Gall camau gweithredu gynnwys y canlynol: 

  • rhoi cyngor
  • newid amodau i’r drwydded
  • cyflwyno hysbysiad gorfodi a fydd yn nodi beth sy’n rhaid ei wneud i ddatrys problemau ac erbyn pryd
  • cyflwyno hysbysiad atal os oes risg ddifrifol o lygredd – mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r gweithgareddau ddod i ben
  • rhoi rhybudd ffurfiol neu rybuddiad ffurfiol, neu wneud penderfyniad i erlyn

Adroddiadau am ddigwyddiad 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael adroddiadau rheolaidd gan y gymuned leol ynghylch sŵn, llwch ac allyriadau arogleuon o ffatri Kronospan. Rydym yn cofnodi pob digwyddiad ac yn anfon manylion am y mater yr adroddwyd amdano ar unwaith at y gweithredwr i ymchwilio iddo a rhoi adborth. Rydym hefyd yn mynd i ddigwyddiadau pan fo angen, ac yn eu hystyried fel rhan o’n gweithgareddau asesu cydymffurfedd. 

Mae’r drwydded amgylcheddol yn cynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i Kronospan atal allyriadau o’r fath, a phan nad yw hynny’n ymarferol, eu lleihau. Mae hyn yn gofyn am ddefnyddio ‘mesurau priodol’, a elwir hefyd yn Dechnegau Gorau sydd ar Gael, sydd wedi’u nodi yng nghanllawiau’r diwydiant.  

Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod Kronospan yn defnyddio mesurau priodol i reoli sŵn, llwch ac arogleuon. Asesir hyn yn ystod y broses drwyddedu a thrwy archwiliad safle. Os nad oes mesurau priodol ar waith, yna bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn pennu camau gweithredu, neu amodau gwella, er mwyn sicrhau cydymffurfedd y gweithgareddau. 

Ers i Cyfoeth Naturiol Cymru ddod yn unig reoleiddiwr y safle yn 2022, rydym wedi goruchwylio dros 20 o amodau gwella er mwyn sicrhau bod y safle’n lleihau ei effaith ar y gymuned leol a’r amgylchedd.  

Fodd bynnag, bydd rhaid i’r gweithredwr wneud gwelliannau pellach er mwyn lleihau unrhyw broblemau’n ymwneud â sŵn, llwch ac arogleuon. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r gweithredwr i sicrhau bod y camau gweithredu hyn yn cael eu cymryd cyn gynted â phosibl. 

Sŵn 

Gall y gweithgareddau gweithgynhyrchu ar safle Kronospan achosi allyriadau sŵn.  Mae’r drwydded a roddwyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr weithredu mewn modd sy’n atal, ac yn lleihau, allyriadau sŵn a dirgryniadau yn unol â’r Technegau Gorau sydd ar Gael. 

Gosodwyd amod gwella (IC40) ar Kronospan i gynhyrchu Cynllun Rheoli Sŵn a’i gyflwyno i Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â safonau perthnasol. 

Mae Kronospan wedi cyflwyno ymateb i’r weithdrefn hon a oedd yn cynnwys asesiadau sŵn a modelu allyriadau sŵn.  Fodd bynnag, mae’r safon honno, y mae rheoleiddwyr amgylcheddol yn asesu gweithgareddau gweithredwyr yn ei herbyn, yn ei gwneud yn ofynnol i sŵn sy’n cael ei fesur gael ei asesu yn erbyn mesuriad cefndir perthnasol. 

Gall fod yn anodd cael mesuriadau cefndir oherwydd gweithrediadau’r safle a’r tywydd.  Mae mesuriad cefndir bellach wedi’i gymryd ar ddiwedd 2024, pan gaewyd y safle i raddau helaeth, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn aros i’r asesiad a’r Cynllun Rheoli Sŵn gorffenedig gael eu cyflwyno.     

Llwch  

Mae prosesau gweithgynhyrchu Kronospan yn cynhyrchu symiau sylweddol o lwch a reolir gan ddefnyddio technegau amrywiol a nodir yn eu Cynllun Rheoli Llwch. 

Mae allyriadau prosesau llychlyd yn mynd trwy systemau atal, megis seiclonau a hidlyddion ffabrig, i dynnu llwch cyn cael eu rhyddhau i’r atmosffer. Mae gan y mannau allyriadau mwyaf arwyddocaol werthoedd terfyn allyriadau, a rhaid eu monitro i ddangos bod allyriadau yn cydymffurfio â’r drwydded. 

Gosododd Cyfoeth Naturiol Cymru amod gwella a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Kronospan ymchwilio i ddatrysiadau technegol ar gyfer monitro a rheoli 30 o hidlyddion bagiau unigol, ac mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma. 

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Cwblhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru archwiliad rheoli llwch ym mis Hydref ac arolygiad dirybudd o’r safle ar 31 Rhagfyr 2024. Mae canfyddiadau’r arolygiadau hyn yn cael eu cofnodi mewn adroddiadau asesu cydymffurfedd, a byddant yn cael eu rhoi ar ein cofrestr gyhoeddus. Nodwyd sawl achos o ddiffyg cydymffurfio â’r drwydded, ac mae camau gweithredu wedi’u pennu sy’n ei gwneud yn ofynnol i Kronospan gyflawni gwelliannau. 

Arogleuon 

Mae gan allyriadau o brosesau Kronospan werthoedd terfyn allyriadau llym i sicrhau bod allyriadau’n cael eu lleihau ac i ddiogelu ansawdd yr aer. Mae rhai allyriadau hefyd yn aroglus, ac mae gwaith wedi’i gwblhau i fesur a deall cyfraniad arogleuon o brosesau amrywiol. 

Mae Kronospan wedi bod yn cynnal cynllun peilot i leihau allyriadau o fan allyriadau o’r enw WESP21.Mae WESP21 wedi’i awdurdodi i ryddhau allyriadau o sychwr sy’n sychu pren gwastraff cyn iddo gael ei ddefnyddio i weithgynhyrchu byrddau gronynnau.  Nodwyd WESP21 fel y ffynhonnell fwyaf aroglus. Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, efallai y bydd y technegau a ddefnyddiwyd yn cael eu cymhwyso i fannau allyriadau eraill. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun peilot yma.  

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Bwrdd haenau cyfeiriedig (amrywiad bwrdd haenau cyfeiriedig) 

Pan fydd gweithredwr yn bwriadu gwneud newidiadau i’w weithgareddau a ganiateir, rhaid iddo wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru i ‘amrywio’r’ drwydded. Bydd y cais yn cael ei benderfynu gan swyddogion trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol ac, yn y pen draw, yn cael ei ganiatáu neu ei wrthod. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael cais i amrywio trwydded yn sylweddol gan Kronospan ar gyfer gweithredu proses gweithgynhyrchu byrddau haenau cyfeiriedig. 

Unwaith y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn penderfynu bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen i ddechrau penderfynu ar gais, caiff ei ‘wneud yn briodol’, ac mae gofyniad statudol arnom i ymgynghori â’r cyhoedd am gyfnod o 20 diwrnod gwaith. Gwnaed y cais yn briodol ym mis Rhagfyr, a chyhoeddwyd hysbyseb ar ein gwefan ar 6 Rhagfyr, gyda dyddiad cau o 20 Ionawr 2025.  

Mae ein datganiad cyfranogiad y cyhoedd, sydd i’w weld ar ein gwefan, yn amlinellu pam yr ydym yn ymgynghori a phryd. 

Ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal yr holl asesiadau technegol perthnasol, a chwblhau ein penderfyniad ar y cais, os ydym yn bwriadu caniatáu’r cais amrywio, cynhelir ymgynghoriad pellach â’r cyhoedd cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cais yma neu drwy fynd i’n cofrestr gyhoeddus. 

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr rheolaidd newydd am sut rydym yn rheoleiddio safle Kronospan, Y Waun.

Data personol

Bydd unrhyw ddata personol a gyflwynir yn cael ei gadw’n ddiogel. Mae gennych yr opsiwn i aros yn ddienw, fodd bynnag, er mwyn derbyn diweddariadau rheolaidd ynghylch safle Kronospan, Y Waun, rydym yn argymell eich bod yn darparu cyfeiriad e-bost.

--

Llun oddi ar Wikimedia.

Byddwch yn dawel eich meddwl ein bod yn cymryd pob adroddiad o ddifrif ac yn canolbwyntio ein holl ymdrechion ar fynd i'r afael â'r materion a godwyd ar safle Kronospan, Y Waun.

Ardaloedd

  • Chirk North
  • Chirk South

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Cockles
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Rivers
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Volunteers
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Management
  • Woodland Opportunity Map users
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • South West Stakeholder group
  • Citizens
  • National Access Forum
  • Gwent
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority
  • River restoration
  • Adfer afonydd
  • Educators
  • SoNaRR2020
  • Designated Landscapes
  • Tirweddau dynonedig
  • Mine recovery specialists
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mwyngloddiau metel
  • Coastal Group Members
  • Wales Biodiversity Partnership
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Regulatory Voice
  • Permits