Sut rydym yn rheoleiddio safle Kronospan, Y Waun
Trosolwg
English version available here.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn derbyn adroddiadau’n rheolaidd gan y gymuned leol am sŵn, llwch ac arogleuon o ffatri Kronospan. Rydym am sicrhau pobl ein bod yn cymryd pob adroddiad digwyddiad o ddifrif ac yn canolbwyntio ein hymdrechion ar fynd i’r afael â’r materion a godwyd.
Rydym yn adolygu pob digwyddiad sy’n gysylltiedig â Kronospan a adroddwyd gan drigolion lleol, gan ofyn i’r gweithredwr ymchwilio a rhoi adborth i CNC ar bob un.
Rydym yn parhau i sicrhau bod y safle yn cydymffurfio â’i drwydded amgylcheddol, sydd wedi’i chynllunio i ddiogelu’r amgylchedd ac amddiffyn iechyd pobl.
Fodd bynnag, mae gwelliannau’n parhau o ran rheoli llwch, arogl a sŵn. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r gweithredwr i sicrhau bod y rhain yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.
Cefndir
Mae Kronospan Limited wedi bod yn gweithredu ffatri gweithgynhyrchu byrddau panel pren yn y Waun ers blynyddoedd lawer. Er mwyn gweithredu’n gyfreithlon, rhaid i Kronospan feddu ar drwydded amgylcheddol yn unol â Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Mae’r drwydded a roddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus a gellir dod o hyd iddi yma:
Mae trwyddedau amgylcheddol yn pennu terfynau sy’n rhwymo mewn cyfraith, ar allyriadau i’r aer, i’r tir a’r dŵr, ynghyd â gofynion eraill i atal a lleihau effaith amgylcheddol y gweithgareddau a ganiateir. Mae’r drwydded yn gweithredu safonau’r diwydiant, o’r enw ‘Technegau Gorau sydd ar Gael’.
Nid yw materion yn ymwneud â chynllunio o fewn cwmpas y drwydded amgylcheddol; mae’r rhain yn parhau i fod yn gyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio lleol.
Diweddariad Mehefin 2025
Sŵn
Gosodwyd amod gwella ar Kronospan yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchu cynllun rheoli sŵn a’i gyflwyno i CNC yn unol â’r safonau perthnasol.
Gwrthodwyd yr ymateb cychwynnol gan CNC ac roedd yn ofynnol i Kronospan gynhyrchu cyflwyniad newydd, gan gynnwys asesiad cyfredol o allyriadau sŵn o’r ffatri.
Roedd hwn yn gofyn am fesuriadau o sŵn pan oedd y ffatri ar waith a phan gafodd ei chau. Mae’r data hyn bellach wedi’u casglu, ac mae disgwyl i CNC dderbyn ymateb llawn i’r amod gwella hwn, a fydd yn cael ei asesu gan ein harbenigwyr monitro sŵn.
Efallai y bydd canlyniad yr asesiad effaith sŵn yn ei gwneud yn ofynnol i Kronospan wneud gwelliannau i leihau allyriadau sŵn ac i sicrhau cydymffurfedd â’i drwydded. Bydd CNC yn sicrhau bod hwn yn cael ei gwblhau.
Yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn, canfuwyd bod nifer sylweddol o adroddiadau sŵn a briodolwyd i Kronospan yn gysylltiedig â ffatri Mondelēz gyfagos. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw’r rheoleiddiwr priodol ar gyfer y cyfleuster hwnnw a chafodd ei hysbysu am y mater.
Ar 10 Ebrill 2025, derbyniodd CNC 11 adroddiad o sŵn. Ymchwiliodd Kronospan ac adroddodd fod stêm pwysedd uchel wedi cael ei ryddhau o falf rhwng 7.05am a 7.30am yn dilyn cychwyn offer. Mae camau wedi’u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto.
Llwch
Mae CNC wedi derbyn adroddiadau rheolaidd am lwch pren niwsans. Ym mis Mawrth ac Ebrill 2025, cynhaliodd ein swyddogion archwiliadau safle heb rybudd yn Kronospan a nododd achosion o beidio â chydymffurfio â thrwyddedau yn ymwneud â mesurau rheoli llwch ar gyfer trin a phrosesu pren wedi’i ailgylchu yn yr iard foncyffion.
Gofynnodd CNC i Kronospan weithredu mesurau tymor byr i leihau effaith llwch y gweithrediadau hyn. Cwblhawyd y mesurau hynny, gyda chamau gweithredu ar wahân wedi’u gosod ar gyfer dulliau mwy cadarn a mwy hirdymor i’w gweithredu erbyn diwedd mis Mai a mis Mehefin 2025.
Bydd CNC yn asesu cydymffurfedd yn erbyn y gwelliannau gofynnol.
Arogleuon
Mae CNC wedi derbyn adroddiadau rheolaidd am arogleuon, yn enwedig ym mis Mai a mis Mehefin. Ymwelodd swyddogion CNC â’r safle ddwywaith yn ddirybudd yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin. Canfuwyd arogl oddi ar y safle ar y ddau achlysur, ond ni nododd archwiliadau ar y safle unrhyw broblemau sylweddol gyda systemau rheoli arogl presennol Kronospan.
Mae gan allyriadau o brosesau Kronospan werthoedd terfyn allyriadau llym i sicrhau bod allyriadau’n cael eu lleihau ac i ddiogelu ansawdd yr aer. Mae rhai allyriadau hefyd yn aroglus, ac mae gwaith wedi’i wneud i fesur a deall cyfraniad arogleuon o brosesau amrywiol.
Mae Kronospan wedi bod yn cynnal treialon i leihau allyriadau o bwynt allyriadau a elwir yn WESP21.
Mae WESP21 wedi’i awdurdodi i ryddhau allyriadau o sychwr sy’n sychu pren gwastraff cyn iddo gael ei ddefnyddio i weithgynhyrchu byrddau gronynnau ac mae wedi’i nodi fel y pwynt allyriadau mwyaf drewllyd ar y safle.
Dangoswyd bod dosio yn lleihau arogl ac, ym mis Chwefror 2025, ymchwiliodd Kronospan i effaith cyfraddau dosio ocsidyddion uwch ar WESP21. Ni nododd hyn ostyngiad pellach mewn allyriadau arogl, ond mae’r WESP bellach yn cael ei ddosio ar y gyfradd orau.
Mae Kronospan bellach yn ymchwilio i opsiynau i drin arogl o bwynt allyriadau arall o’r enw WESP32, sef y simnai dal yng nghanol y safle sy’n aml yn allyrru niwl gweladwy. Bydd canfyddiadau’r treialon hyd yn hyn ac opsiynau yn y dyfodol i leihau arogleuon yn cael eu trafod gyda Kronospan ym mis Mehefin 2025.
Yn ddiweddar, mae CNC wedi derbyn cyswllt gan aelodau o’r gymuned yn codi cysylltiadau posibl rhwng tanwydd sy’n cael ei losgi yn Kronospan ac arogleuon oddi ar y safle.
Mae Kronospan wedi’i awdurdodi i weithredu dau losgydd i losgi pren gwyryfol a phren gwastraff nad yw’n beryglus. Mae’r rhain wedi bod mewn defnydd ers dros ddeng mlynedd ac yn rhedeg yn barhaus, ac eithrio amser segur a chynnal a chadw achlysurol wedi’i gynllunio. Mae’r llosgyddion yn cynhyrchu gwres a stêm a ddefnyddir yn y broses weithgynhyrchu ac maent yn destun terfynau allyriadau a monitro rheolaidd, gyda data’n cael ei adrodd i CNC.
Er y gall hylosgi pren gwastraff achosi rhywfaint o arogl, mae’r holl dystiolaeth o ymarferion samplu arogl yn Kronospan, ac fel y manylir yng nghanllawiau’r diwydiant, yn dangos mai’r allyriadau arogl mwyaf arwyddocaol yw o sychu pren gwastraff sy’n gysylltiedig â WESP21, sydd wedi bod yn ffocws treialon lleihau arogl fel y disgrifiwyd uchod.
Mae CNC wedi archwilio’r tanwyddau gwastraff sy’n cael eu defnyddio yn y boeleri hyn, a gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon ar y gofrestr gyhoeddus.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Gwasanaeth Trwyddedu CNC adolygiad o losgyddion Kronospan i sicrhau eu bod yn bodloni’r ‘Technegau Gorau sydd ar Gael’ ar gyfer y diwydiant. Arweiniodd hyn at ddiweddariad i’r drwydded, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025, gan gynnwys newidiadau i fonitro a therfynau allyriadau, ynghyd â nifer o amodau gwella i’w cwblhau dros y 18 mis nesaf.
Yr hyn rydym ni’n ei wneud i reoleiddio’r safle
Mae swyddogion lleol Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal asesiadau cydymffurfedd rheolaidd er mwyn sicrhau bod amodau’r drwydded yn cael eu bodloni. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys ymchwiliadau i ddigwyddiadau, archwiliadau safle wedi’u cynllunio o flaen llaw a dirybudd, ac adolygu’r data monitro allyriadau ac adroddiadau eraill sy’n ofynnol gan y drwydded. Mae’r holl wybodaeth hon ar gael i’w gweld ar ein cofrestr gyhoeddus.
Mae’r drwydded amgylcheddol yn cynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i Kronospan atal allyriadau o’r fath, a phan nad yw hynny’n ymarferol, eu lleihau. Mae hyn yn gofyn am ddefnyddio ‘mesurau priodol’, a elwir hefyd yn Dechnegau Gorau sydd ar Gael, sydd wedi’u nodi yng nghanllawiau’r diwydiant.
Rôl CNC yw sicrhau bod Kronospan yn defnyddio mesurau priodol i atal a lleihau allyriadau ac yn cydymffurfio ag amodau ei drwydded amgylcheddol. Caiff hyn ei asesu yn ystod y broses drwyddedu a thrwy archwiliadau safle.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd camau gweithredu os yw’n amau bod deiliad trwydded wedi torri amod trwydded neu wedi torri’r gyfraith. Gall camau gweithredu gynnwys y canlynol:
- rhoi cyngor
- newid amodau i’r drwydded
- cyflwyno hysbysiad gorfodi a fydd yn nodi beth sy’n rhaid ei wneud i ddatrys problemau ac erbyn pryd
- cyflwyno hysbysiad atal os oes risg ddifrifol o lygredd – mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r gweithgareddau ddod i ben
- rhoi rhybudd ffurfiol neu rybuddiad ffurfiol, neu wneud penderfyniad i erlyn
Amrywiad bwrdd haenau cyfeiriedig
Pan fydd gweithredwr yn bwriadu gwneud newidiadau i’w weithgareddau a ganiateir, rhaid iddo wneud cais i CNC i ‘amrywio’ y drwydded. Bydd y cais yn cael ei benderfynu gan swyddogion trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol ac, yn y pen draw, yn cael ei ganiatáu neu ei wrthod.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael cais i amrywio trwydded yn sylweddol gan Kronospan ar gyfer gweithredu proses gweithgynhyrchu byrddau haenau cyfeiriedig, sy’n cael ei asesu ar hyn o bryd gan ein Gwasanaeth Trwyddedu.
Ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal yr holl asesiadau technegol perthnasol, a chwblhau ein penderfyniad ar y cais, os ydym yn bwriadu caniatáu’r cais amrywio, cynhelir ymgynghoriad pellach â’r cyhoedd cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.
Mae ein datganiad cyfranogiad y cyhoedd, sydd i’w weld ar ein gwefan, yn amlinellu pam yr ydym yn ymgynghori a phryd.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cais [yma] eu drwy fynd i’n cofrestr gyhoeddus.
Cylchlythyr
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr rheolaidd newydd am sut rydym yn rheoleiddio safle Kronospan, Y Waun.
Data personol
Bydd unrhyw ddata personol a gyflwynir yn cael ei gadw’n ddiogel. Mae gennych yr opsiwn i aros yn ddienw, fodd bynnag, er mwyn derbyn diweddariadau rheolaidd ynghylch safle Kronospan, Y Waun, rydym yn argymell eich bod yn darparu cyfeiriad e-bost.
--
Llun oddi ar Wikimedia.
Byddwch yn dawel eich meddwl ein bod yn cymryd pob adroddiad o ddifrif ac yn canolbwyntio ein holl ymdrechion ar fynd i'r afael â'r materion a godwyd ar safle Kronospan, Y Waun.
Ardaloedd
- Chirk North
- Chirk South
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Forest Management
- Woodland Opportunity Map users
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- River restoration
- Adfer afonydd
- Educators
- SoNaRR2020
- Designated Landscapes
- Tirweddau dynonedig
- Mine recovery specialists
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Coastal Group Members
- Wales Biodiversity Partnership
- Equality, Diversity and Inclusion
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Regulatory Voice
- Permits
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook