Sut rydym yn rheoleiddio safle Kronospan, Y Waun
Trosolwg
English version available here.
Adrodd problem o safle Kronospan, Y Waun
Er mwyn adrodd problemau o safle Kronospan, Y Waun, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 065 3000 neu adroddwch ar-lein yma.
Rydym ni’n cymryd hyn o ddifrif
Rydym yn deall lefel y pryder yn y gymuned leol ac rydym am sicrhau pobl ein bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif.
Rydym yn ystyried pob cwyn am Kronospan gan drigolion lleol, gan ofyn i'r gweithredwr ymchwilio a rhoi adborth ar yr holl adroddiadau. Rydym hefyd yn rhoi adnoddau sylweddol i sicrhau bod y gweithredwr yn cymryd y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r materion ac yn parhau i gydymffurfio â’r drwydded amgylcheddol, i ddiogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl.
Ers i ni ddod yr unig rheoleiddwr yn 2022, rydym wedi goruchwylio dros 20 o amodau gwelliant i sicrhau bod y safle’n lleihau'r effaith ar y gymuned leol a’r amgylchedd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae llawer o'r amodau hyn wedi'u cyflawni.
Fodd bynnag, mae gwelliannau pellach i'w gweithredu gan y gweithredwr i leihau unrhyw faterion llwch ac arogl. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r gweithredwr i sicrhau bod y camau hyn yn cael eu cymryd cyn gynted â phosib.
Cylchlythyr
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr rheolaidd newydd am sut rydym yn rheoleiddio safle Kronospan, Y Waun.
Data personol
Bydd unrhyw ddata personol a gyflwynir yn cael ei gadw’n ddiogel. Mae gennych yr opsiwn i aros yn ddienw, fodd bynnag, er mwyn derbyn diweddariadau rheolaidd ynghylch safle Kronospan, Y Waun, rydym yn argymell eich bod yn darparu cyfeiriad e-bost.
Cwestiynau Cyffredin
I'w ddiweddaru'n fuan.
--
Llun oddi ar Wikimedia.
Byddwch yn dawel eich meddwl ein bod yn cymryd pob adroddiad o ddifrif ac yn canolbwyntio ein holl ymdrechion ar fynd i'r afael â'r materion a godwyd ar safle Kronospan, Y Waun.
Ardaloedd
- Chirk North
- Chirk South
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Management
- Woodland Opportunity Map users
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- River restoration
- Adfer afonydd
- Educators
- SoNaRR2020
- Designated Landscapes
- Tirweddau dynonedig
- Mine recovery specialists
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Coastal Group Members
- Wales Biodiversity Partnership
- Equality, Diversity and Inclusion
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Regulatory Voice
- Permits
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook