Pysgodfa Cocos Aber Afon Dyfrdwy: Gorchymyn Rheoleiddio Newydd

Trosolwg

English version

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) yn gweithio mewn partneriaeth i wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio newydd ar gyfer pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy. Bydd hyn yn disodli’r Gorchymyn presennol a gyflwynwyd yn 2008, sydd wedi helpu i drawsnewid y bysgodfa yn un o’r rhai mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Nod y Gorchymyn newydd arfaethedig yw adeiladu ar y llwyddiant hwn — gan sicrhau y bydd y bysgodfa’n parhau i gael ei rheoli’n dda, i fod yn amgylcheddol gyfrifol ac yn wydn, gan gyflawni manteision hirdymor i’r rhai sy’n casglu cocos, i gymunedau lleol ac i’r amgylchedd naturiol ehangach.

Ble rydym ni yn y broses ymgynghori?

  • Cynhaliwyd arolwg ar-lein ym mis Medi 2025
  • Cyflwynwyd y cais ar y cyd ym mis Ionawr 2026
  • Bydd ymgysylltiad anffurfiol â rhanddeiliaid yn dechrau'r haf yma (2026)
  • Bydd ymgynghoriad ffurfiol yn dechrau yn yr hydref (2026).

Pam Mae Angen Gorchymyn Rheoleiddio Newydd

  • Bydd y Gorchymyn Rheoleiddio presennol yn dod i ben ym mis Mehefin 2028.
  • Heb Orchymyn newydd, gallai’r bysgodfa wynebu heriau, er enghraifft gor-gynaeafu, difrod i gynefinoedd, a cholli’r cynnydd a wnaed dros y 17 mlynedd diwethaf.
  • Bydd Gorchymyn newydd yn darparu fframwaith cyfreithiol clir i gefnogi cynaeafu cynaliadwy, diogelu cynefinoedd a mynediad teg i’r bysgodfa.

Model Profedig o Reoli Pysgodfeydd yn Gynaliadwy

Ers 2008, mae pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy yn gweithredu o dan Orchymyn Rheoleiddio sydd wedi helpu i:

  • Ddod â chylchoedd cynaeafu “chwim dwf a chwalfa” anghynaladwy i ben.
  • Cefnogi 54 o gasglwyr trwyddedig a chreu manteision economaidd hirdymor.
  • Adfer a gwarchod cynefinoedd aberol a phoblogaethau adar.
  • Cyflawni ardystiad MSC yn ogystal ag ennill Gwobr Arweinyddiaeth Môr y DU yr MSC 2023 am arferion cynaliadwy rhagorol ac ymroddiad i ddiogelu adar a hyrwyddo cynaeafu effaith isel ym mhysgodfeydd cocos aber afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn.

Bydd y Gorchymyn newydd arfaethedig yn adeiladu ar y sylfaen lwyddiannus hon.

Diogelu Dyfodol y Bysgodfa

Bydd y Gorchymyn Rheoleiddio newydd yn:

  • Helpu i ddiogelu stociau cocos a chynefinoedd sensitif yr aber.
  • Sicrhau mynediad teg a chynaliadwy parhaus i gasglwyr trwyddedig.
  • Cyflawni manteision hirdymor i fyd natur, bywoliaeth yn lleol, a’r gymuned ehangach.
  • Atal gwaith rheoli’r bysgodfa rhag cael ei rannu rhwng y cyfundrefnau cenedlaethol ar y naill ochr a’r llall i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, sy’n rhedeg trwy ganol aber afon Dyfrdwy, a fyddai’n golygu bod perygl i’r dulliau gweithredu wahaniaethu ac o bosib y byddai polisïau a gweithdrefnau gwahanol yn cael eu datblygu gan ddwy weinyddiaeth wahanol y pysgodfeydd.

Bydd y Gorchymyn newydd arfaethedig yn ategu trwyddedu cenedlaethol drwy gynnig amddiffyniadau seiliedig ar le wedi’u teilwra i anghenion unigryw aber afon Dyfrdwy.

Yn Gryfach Gyda’n Gilydd – Dull Cydweithredol

Mae CNC a NWIFCA yn cyfuno eu profiad a’u harbenigedd i:

  • Gynnig profiad ymarferol o reoleiddio a gorfodi pysgodfeydd pysgod cregyn.
  • Darparu ymrwymiad ar y cyd i gynaliadwyedd a diogelu cynefinoedd.
  • Sicrhau rolau cyflenwol — mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn canolbwyntio ar oruchwyliaeth ecolegol gan gynnwys cynnal Amcanion Cadwraeth yr Ardal Forol Warchodedig ac alinio â blaenoriaethau cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, tra bod NWIFCA yn dod ag arbenigedd ehangach o ran rheoli a rheoleiddio pysgodfeydd y glannau.

Gyda’n gilydd, ein nod yw cyflawni fframwaith rheoli cydlynol a chynhwysol sy’n adlewyrchu gwybodaeth leol a blaenoriaethau cenedlaethol.

Digwyddiadau Ymgysylltu Awst 2026

Bydd cyfres o sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael eu cynnal ym mis Awst i roi cyfle i bobl ddysgu mwy am y cynigion a rhannu eu barn gyda thîm y prosiect.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn:

  • Dydd Iau 6 Awst – Grange-over-Sands, Cumbria

The Old Police Room (Ystafell 4), Victoria Hall, Main Street, Grange-over-Sands, LA11 6DP

  • Dydd Mercher 12 Awst – Maes Glas, Sir y Fflint

Ystafell Ysgol Fictoraidd, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, Ffordd Maes Glas, Maes Glas, Treffynnon, CH8 7GH

  • Mercher 19 Awst – Wallasey, Glannau Mersi

Wallasey Beach CIC, Coastal Drive, Wallasey, CH45 3PZ

  • Dydd Mercher 26 Awst – Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Neuadd y Ffwrnes, Neuadd Gymunedol y Ffwrnes, 51 Heol y Strade, Llanelli, SA15 4ET

Gofynnir i randdeiliaid sydd am ddod drefnu lle ymlaen llaw drwy gysylltu â swyddfa NWIFCA ar 01524 727970 neu e-bostio office@nw-ifca.gov.uk. Mae sesiynau ar gael drwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig, gyda slotiau 45 munud ar gael bob awr o 10:00am ymlaen.

Er ein bod ni’n annog cyfranogiad drwy'r sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb lle bo modd, mae’n bosibl i chi gyflwyno adborth dros e-bost hefyd, drwy ei anfon i deecockleregulatingorder@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Gwybodaeth i randdeiliaid cyn digwyddiadau ymgysylltu mis Awst 2026

Pam ydym yn ystyried gorchymyn rheoleiddio newydd?

Mae’r Gorchymyn Rheoleiddio Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy presennol yn dod i ben ym mis Mehefin 2028. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) yn cydweithio i ddatblygu gorchymyn newydd i sicrhau y gall y bysgodfa barhau i weithredu mewn ffordd gynaliadwy.

Yr hydref diwethaf, gofynnwyd i randdeiliaid am eu barn gychwynnol ar reoli’r bysgodfa yn y dyfodol. Tynnodd yr ymatebion sylw at sawl thema allweddol:

  • Mynediad teg at drwyddedau
  • Cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid
  • Rheoli stociau cocos mewn ffordd gynaliadwy
  • Gorfodi a chydymffurfedd effeithiol
  • Tryloywder wrth wneud penderfyniadau
  • Diogelu treftadaeth ddiwylliannol a gwerth economaidd y bysgodfa

 

Diben digwyddiadau ymgysylltu mis Awst 2026 yw trafod y materion hyn ymhellach a chasglu adborth manwl cyn datblygu cynigion ymhellach.

 

Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi eu gwneud ar hyn o bryd.

 

Yr hyn a glywsom y tro diwethaf a’r hyn rydym yn ei ystyried y tro hwn

 

1. Nifer y trwyddedau

Yr hyn a glywsom

Roedd llawer o ymatebwyr o blaid cynnal pysgodfa reoleiddiedig gyda therfyn ar nifer y trwyddedau er mwyn amddiffyn stociau cocos a chefnogi cynaliadwyedd. Teimlai rhai rhanddeiliaid y dylai nifer y trwyddedau barhau yn debyg i lefelau hanesyddol, tra bod eraill yn awgrymu y dylai nifer y trwyddedau fod yn hyblyg ac adlewyrchu pa mor doreithiog yw’r stoc, a’r amodau amgylcheddol. Pryder cyffredin oedd sicrhau bod nifer y trwyddedau yn parhau ar lefel sy’n caniatáu i bysgotwyr ennill incwm hyfyw.

Tynnodd rhanddeiliaid sylw hefyd at bwysigrwydd creu cyfleoedd i bobl iau a newydd-ddyfodiaid ymuno â’r bysgodfa.

Yr hyn rydym yn ei ystyried

System drwyddedu yn y dyfodol sydd:

  • yn parhau i gyfyngu ar nifer y trwyddedau i gefnogi cynaeafu cynaliadwy;
  • yn caniatáu i nifer y trwyddedau gael eu hadolygu mewn ymateb i lefelau’r stoc ac amodau amgylcheddol;
  • yn darparu cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid pan fo amodau’n caniatáu hynny;
  • yn cydbwyso cynaliadwyedd amgylcheddol â hyfywedd economaidd a diogelwch.

Hoffem glywed eich barn ar y canlynol

  • Faint o drwyddedau a allai fod a pham
  • Beth sy’n cyfrif fel pysgodfa hyfyw o ran incwm a chyfle
  • Sut y gellid cyflwyno cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid
  • Sut y gellid cydbwyso nifer y trwyddedau yn erbyn y stociau sydd ar gael

 

2. Dyrannu trwyddedau

Yr hyn a glywsom

Y system gymeradwyo oedd un o’r materion a drafodwyd amlaf yn yr arolwg. Galwodd llawer o ymatebwyr am fwy o dryloywder a thegwch yn y ffordd y caiff mynediad i’r bysgodfa ei reoli. Roedd cefnogaeth sylweddol hefyd i ddatblygu llwybrau cliriach ar gyfer pobl iau a newydd-ddyfodiaid.

Yr hyn rydym yn ei ystyried

Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu gorchymyn rheoleiddio newydd, rydym yn archwilio dewisiadau amgen i’r trefniadau cymeradwyo presennol, gan ddileu’r opsiwn i ddeiliaid trwyddedau enwebu rhywun arall i bysgota ar eu trwydded pan fônt yn absennol.

Gallai dewisiadau amgen posibl gynnwys:

  • proses dyrannu trwyddedau gliriach a mwy tryloyw;
  • trwyddedau â therfyn amser, na ellir eu hadnewyddu;
  • cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid ifanc ennill profiad a chael mynediad i’r bysgodfa;
  • trefniadau dros dro sy’n dod â deiliad trwydded newydd i mewn pan nad yw deiliad presennol yn gallu ymgymryd â gwaith oherwydd amgylchiadau personol eithriadol.

Hoffem glywed eich barn ar y canlynol

  • Sut y gallem benderfynu pwy y dylai gael trwydded
  • Sut y gellid darparu cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid
  • Sut y gellid rheoli absenoldebau dros dro o’r bysgodfa
  • A ddylid ystyried profiad, gwybodaeth leol, neu gyfranogiad teuluol, ac os felly, sut y dylid gwneud hynny

 

3. Rheolaeth gynaliadwy

Yr hyn a glywsom

Roedd rhanddeiliaid yn cefnogi’n gryf cynnal pysgodfa reoleiddiedig a diogelu stociau cocos ac amgylchedd ehangach yr aber. Roedd llawer o ymatebwyr yn cefnogi dulliau rheoli addasol sy’n caniatáu i fesurau rheoli ymateb i asesiadau stoc blynyddol ac amodau amgylcheddol.

Yr hyn rydym yn ei ystyried

Byddai’r gorchymyn rheoleiddio yn y dyfodol yn parhau i wneud y canlynol:

  • Defnyddio asesiadau stoc blynyddol i lywio penderfyniadau ynghylch rheoli
  • Defnyddio mesurau rheoli addasol pan fo angen
  • Diogelu cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol aber afon Dyfrdwy
  • Sicrhau bod cynaeafu yn parhau i fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor

Byddai’r gorchymyn rheoleiddio arfaethedig yn gweithredu o fewn fframwaith rheoli ehangach sy’n cydbwyso amcanion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Hoffem glywed eich barn ar y canlynol

  • Sut olwg sydd ar reolaeth gynaliadwy i chi
  • Sut y gellid gwella mesurau rheoli
  • Beth y gallai fod yn flaenoriaethau allweddol ar gyfer dyfodol y bysgodfa

 

4. Gorfodi a chyfathrebu

Yr hyn a glywsom

Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod pwysigrwydd monitro a gorfodi cydymffurfedd yn effeithiol. Tynnodd y rhai a wnaeth ymateb i’r arolwg sylw at yr angen am orfodi cyson, monitro gwell, a mwy o dryloywder ynghylch penderfyniadau yn ymwneud â rheoli pysgodfeydd. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid y dylid defnyddio mwy o dechnoleg i gynnal y broses o fonitro ac adrodd.

Yr hyn rydym yn ei ystyried

Byddai’r gorchymyn rheoleiddio yn y dyfodol yn cael ei reoli ar y cyd gan CNC a NWIFCA trwy drefniant partneriaeth y cytunwyd arno. Rydym yn archwilio cyfleoedd i wneud y canlynol:

  • Cryfhau’r cydweithio rhwng CNC a NWIFCA
  • Gwella trefniadau monitro ac adrodd
  • Cynnal gweithgareddau gorfodi effeithiol
  • Gwella cyfathrebu a thryloywder gyda rhanddeiliaid

Hoffem glywed eich barn ar y canlynol

  • Gwelliannau y gellid eu gwneud i’r broses o fonitro a gorfodi cydymffurfedd
  • Sut y gellid gwella cyfathrebu a thryloywder
  • Pa wybodaeth yr hoffech chi ei chael yn fwy rheolaidd

 

5. Ffioedd trwydded

Yr hyn a glywsom

Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod bod pysgodfa a reolir yn dda yn gofyn am fuddsoddiad mewn rheolaeth, asesiadau stoc, gorfodi, a gweinyddu. Tynnodd yr ymatebwyr sylw hefyd at bwysigrwydd sicrhau bod trefniadau codi tâl yn deg ac yn dryloyw.

Yr hyn rydym yn ei ystyried

O dan orchymyn rheoleiddio newydd:

  • byddai’r costau sy’n gysylltiedig â datblygu a gweithredu’r gorchymyn newydd yn cael eu hadennill drwy ffioedd trwydded dros gyfnod adennill costau penodol;
  • byddai holl gostau blynyddol rheoli’r bysgodfa yn cael eu hadennill drwy ffioedd trwydded.

Yn seiliedig ar amcangyfrifon cyfredol, gallai ffioedd trwydded fod tua £3,500–£4,500 fesul trwydded y tymor, er y bydd hyn yn dibynnu ar nifer y trwyddedau a gyflwynir a’r costau terfynol y mae angen eu hadennill. Mae ffioedd yn debygol o gynyddu dros gyfnod arfaethedig y gorchymyn o 30 mlynedd yn unol â chwyddiant a’r costau cynyddol cysylltiedig i CNC a NWIFCA wrth reoli’r bysgodfa.

Hoffem glywed eich barn ar y canlynol

  • Gwybodaeth a fyddai’n helpu i wella eich dealltwriaeth o ffioedd trwydded
  • Pa egwyddorion a allai fod yn sail i adennill costau
  • Sut y gellid cymhwyso taliadau yn deg ac yn dryloyw

Pam fod eich barn yn bwysig

Darparodd arolwg hydref 2025 adborth cynnar gwerthfawr a nododd ddiddordeb cyffredin cryf mewn cynnal pysgodfa gynaliadwy, sy’n cael ei rheoli’n dda ac sy’n hyfyw yn economaidd.

Mae digwyddiadau ymgysylltu mis Awst eleni yn gyfle i adeiladu ar y gwaith hwnnw ac yn helpu i lunio’r broses o reoli Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy yn y dyfodol.

Bydd eich adborth yn helpu i lywio cam nesaf datblygu’r Gorchymyn Rheoleiddio Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy arfaethedig.

 

Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi eu gwneud ar hyn o bryd, a bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried yn ofalus.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud y canlynol:

  • Gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i siapio dyfodol cynaliadwy ar gyfer pysgodfa aber afon Dyfrdwy.
  • Paratoi ar gyfer ymgynghoriad yn yr hydref (2026).

Cymerwch Ran

Rydym wedi ymroi i gynnal deialog agored a chynhwysol. Os ydych yn un o’r canlynol:

  • Casglwr cocos trwyddedig neu ddarpar gasglwr cocos
  • Aelod o’r gymuned leol
  • Rhanddeiliad morol neu amgylcheddol
  • Cynrychiolydd o’r diwydiant pysgodfeydd

...mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn helpu i lywio’r Gorchymyn Rheoleiddio newydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) yn gweithio mewn partneriaeth i wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio newydd ar gyfer pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy. Bydd hyn yn disodli’r Gorchymyn presennol a gyflwynwyd yn 2008, sydd wedi helpu i drawsnewid y bysgodfa yn un o’r rhai mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Yn cau 1 Medi 2027

Wedi agor 15 Medi 2025

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Adfer afonydd
  • Anglers
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Citizens
  • citizens
  • Coal Authority
  • Coastal Group Members
  • Cockles
  • Community Volunteers
  • DCWW
  • Designated Landscapes
  • Educators
  • EPR and COMAH facilities
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • Flooding
  • Fly-fishing
  • Forest Management
  • Gwent
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • IMPEL Network
  • Llifogydd
  • marine developers
  • marine planners
  • Metal mines
  • Mine recovery specialists
  • Mwyngloddiau metel
  • National Access Forum
  • Natur am Byth!
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Newport Green and Safe Spaces
  • NFU
  • Rheoli coedwigoedd
  • River restoration
  • Rivers
  • SoNaRR2020
  • South West Stakeholder group
  • Tirweddau dynonedig
  • Wales Biodiversity Partnership
  • water companies
  • Water Resources
  • Woodland Opportunity Map users

Diddordebau

  • Abstraction Licences
  • Acorn Antics / Miri Mes
  • Adfer afonydd
  • Adfer mwyngloddiau
  • Adnoddau Dwr
  • Bioamrywiaeth
  • Biodiversity
  • Climate change adaptation measures
  • Community Engagement
  • Community Voulnteering
  • Consultation
  • Customer Experience
  • Customer Journey Mapping
  • Cynllunio dwr
  • Datganiad Ardal De Orllewin
  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Dee
  • Development
  • Dysgu proffesiynnol
  • EIA
  • Engagement
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol
  • Fishing
  • Flooding
  • Forest Management
  • Fruitful Orchard Project
  • Gwastraff
  • Gwent
  • Gwerthu Pren
  • Gwirfoddoli Cymunedol
  • IMPEL Network
  • Landscapes
  • Llais Rheoleiddio
  • Llifogydd
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Metal mines
  • Mine recovery
  • Mwyngloddiau metel
  • National Access Forum
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Permits
  • Professional learning
  • Pysgota
  • Regulatory Voice
  • resources
  • Rheoli Coedwig
  • river basin planning
  • River restoration
  • South West Area Statement
  • Species Licence
  • Stakeholder Management
  • Strategic review of charging
  • Terrestrial ecosystems and species
  • The Hub
  • Timber sales
  • Tirweddau
  • Trwydded Rhywogaeth
  • Trwyddedau
  • Waste
  • water framework directive
  • water planning
  • Water Resources
  • WFD
  • Woodland Opportunity Map
  • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr
  • Ymgysylltu cymunedol