Ein gwaith ar ddolydd Worthenbury

Trosolwg

English version available here.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu dyfodol gorsafoedd pwmpio draenio tir yn ardal Dolydd Worthenbury ger Wrecsam. Mae'r gorsafoedd pwmpio hyn yn chwarae rhan yn y gwaith o reoli lefelau dŵr a chefnogi’r defnydd o dir lleol, ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn cyfeirio ein hadnoddau at ardaloedd sy'n darparu'r budd mwyaf i bobl a chymunedau yn wyneb newid hinsawdd a blaenoriaethau sy'n datblygu.  Bwriad y prosiect hwn yw archwilio opsiynau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a’u rhoi ar waith.

Cefndir

Mae CNC yn rheoli tair gorsaf bwmpio draenio tir yn ardal Dolydd Worthenbury, ger Wrecsam yng Ngogledd-ddwyrain Cymru:

  • Gorsaf bwmpio Wern-y-Davy
  • Gorsaf bwmpio Dolennion
  • Gorsaf bwmpio Gwern-y-To

Mae'r gorsafoedd pwmpio hyn yn helpu i reoli lefelau dŵr trwy ddraenio dŵr gormodol o ffosydd a'i symud i gyrsiau dŵr naturiol yn gyflymach. Er na allant atal llifogydd, maent yn helpu i leihau'r amser y mae tir yn parhau i fod yn ddwrlawn, gan gefnogi defnydd amaethyddol a mynediad lleol.

Pwysig i'w nodi:

Ni fyddai unrhyw benderfyniad i roi'r gorau i bwmpio yn y lleoliadau hyn yn effeithio ar faint y llifogydd. Nid yw'r pympiau'n atal llifogydd; maent yn diffodd pan fydd lefelau'r dŵr yn llifo dros yr argloddiau. Eu hunig bwrpas yw draenio'r tir yn gyflymach nag a fyddai'n digwydd yn naturiol.

Beth mae ein gwaith yn ei olygu?

Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i ddeall barn ar ddau opsiwn posibl ar gyfer y gorsafoedd pwmpio. Mae opsiynau posibl sy'n cael eu hystyried yn cynnwys:

  1. Datgomisiynu – gyda dull graddol i sicrhau nad oes unrhyw effeithiau annisgwyl ar ddefnydd tir na mynediad cyhoeddus.
  2. Trosglwyddo perchnogaeth, gweithredu, cynnal a chadw a rheoli – lle mae tirfeddianwyr yn cymryd cyfrifoldeb am redeg yr gorsafoedd.

Y gwaith hyd yma

O ganlyniad i'r angen i ganolbwyntio ein hadnoddau ar yr ardaloedd sydd â'r risg mwyaf o lifogydd, fe wnaethom gynnal asesiadau lefel uchel ar 19 o orsafoedd pwmpio yn ardal Gogledd Cymru. Adolygodd yr asesiadau hyn eu perfformiad a'u manteision o ran lleihau'r risg o lifogydd i eiddo preswyl, ac fe wnaethant lywio datblygiad strategaeth reoli hirdymor ar gyfer pob gorsaf.

Gosododd y canfyddiadau cychwynnol Gwern-y-To, Dolennion a Wern-y-Davy, ynghyd â sawl gorsaf bwmpio arall, yn y categori Tynnu Cynnal a Chadw yn ôl, a chynhyrchwyd adroddiad o argymhellion.

Fel rhan o'r cam argymhellion, cynhaliwyd asesiadau pellach i sicrhau bod y sail dystiolaeth ar gyfer y gorsafoedd pwmpio hyn yn gadarn. Roedd y gwaith ychwanegol hwn yn cynnwys ymweliadau â safleoedd i ddeall unrhyw faterion safle benodol, asesiadau sgrinio amgylcheddol, adolygiadau risg llifogydd, amcangyfrifon cost datgomisiynu, ystyriaeth o faterion cyfreithiol a deddfwriaethol, ac adolygiad o brofiad perthnasol gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Roedd canfyddiadau'r gwaith pellach hwn yn cyd-fynd â'r asesiadau cychwynnol.

Beth sy'n digwydd nawr?

Byddwn yn mynd ati i ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid yn y misoedd nesaf i lywio'n llawn yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio a'r rhaglen ar gyfer tynnu cynnal a chadw yn ôl. 

Y camau nesaf

Bydd yr adolygiad hwn yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ddyfodol y gorsafoedd pwmpio hyn. Bydd diweddariadau’n cael eu rhannu ar y dudalen hon wrth i’r prosiect fynd rhagddo.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu dyfodol gorsafoedd pwmpio draenio tir yn ardal Dolydd Worthenbury ger Wrecsam. Mae'r gorsafoedd pwmpio hyn yn chwarae rhan yn y gwaith o reoli lefelau dŵr a chefnogi’r defnydd o dir lleol, ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn cyfeirio ein hadnoddau at ardaloedd sy'n darparu'r budd mwyaf i bobl a chymunedau yn wyneb newid hinsawdd a blaenoriaethau sy'n datblygu.  Bwriad y prosiect hwn yw archwilio opsiynau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a’u rhoi ar waith.

Yn cau 31 Ion 2028

Wedi agor 2 Chwef 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Unrhyw un o unrhyw gefndir

Diddordebau

  • Abstraction Licences
  • Acorn Antics / Miri Mes
  • Adfer afonydd
  • Adfer mwyngloddiau
  • Adnoddau Dwr
  • Bioamrywiaeth
  • Biodiversity
  • Climate change adaptation measures
  • Coal Tip Safety
  • Committees
  • Community Engagement
  • Community Voulnteering
  • Consultation
  • Customer Experience
  • Customer Journey Mapping
  • Cynllunio dwr
  • Datganiad Ardal De Orllewin
  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Dee
  • Development
  • Dysgu proffesiynnol
  • EIA
  • Engagement
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol
  • Fishing
  • Flooding
  • Forest Management
  • Fruitful Orchard Project
  • Gwastraff
  • Gwent
  • Gwerthu Pren
  • Gwirfoddoli Cymunedol
  • IMPEL Network
  • Landscapes
  • Llais Rheoleiddio
  • Llifogydd
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Metal mines
  • Mine recovery
  • Mwyngloddiau metel
  • National Access Forum
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Permits
  • Professional learning
  • Pysgota
  • Regulation
  • Regulatory Voice
  • resources
  • Rheoli Coedwig
  • river basin planning
  • River restoration
  • South West Area Statement
  • Species Licence
  • Stakeholder Management
  • Strategic review of charging
  • Terrestrial ecosystems and species
  • The Hub
  • Timber sales
  • Tirweddau
  • Trwydded Rhywogaeth
  • Trwyddedau
  • Waste
  • water framework directive
  • water planning
  • Water Resources
  • WFD
  • Woodland Opportunity Map
  • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr
  • Ymgysylltu cymunedol