Hysbysiad Cyhoeddus Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr 2026
Trosolwg
Ar ddydd Llun 12 Ionawr 2026, yn dilyn adolygiad o'r dystiolaeth a'r canfyddiadau o ymgynghoriad statudol 2025, cytunodd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i wneud Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr.
Mae penderfyniad y Bwrdd wedi'i wneud yn seiliedig ar faterion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r profion statudol a'r meini prawf ar gyfer dynodiad, gan gydnabod yr ystod o adborth, cefnogaeth a phryderon, gan gynnwys gwrthwynebiadau gan awdurdodau lleol fel ymgyngoreion statudol yn ystod yr ymgynghoriad.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ymhellach y cynnig ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yn seiliedig ar Dirwedd Genedlaethol bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (a oedd gynt yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) yn dilyn cyfnod Hysbysiad Cyhoeddus ac ar ôl derbyn gwybodaeth a thystiolaeth, gan gynnwys ymatebion i'r ymgynghoriad.
Bydd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus yn rhedeg o'r 16 Ionawr 2026 ac yn para tan 15 Chwefror 2026, gan roi cyfle pellach i bobl ymateb yn ffurfiol i'r cynnig.
Yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus, mae'r Gorchymyn Dynodi a'r dogfennau ategol ar gael ar y dudalen wefan hon ac mewn adeiladau cyhoeddus ledled y rhanbarth. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, bydd CNC yn cyflwyno'r holl wybodaeth i Lywodraeth Cymru, a fydd yn ystyried tystiolaeth CNC ochr yn ochr â materion ehangach a godwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid cyn cytuno ar y camau nesaf.
DEDDF PARCIAU CENEDLAETHOL A MYNEDIAD I GEFN GWLAD 1949
CORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU
GORCHYMYN PARC CENEDLAETHOL GLYNDŴR (DYNODI) 2026
Ardaloedd
- Dyffryn Ceiriog/Ceiriog Valley
Cynulleidfaoedd
- Designated Landscapes
Diddordebau
- Landscapes
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook