Arolwg 1: Pysgodfa Cocos Aber Afon Dyfrdwy: Gorchymyn Rheoleiddio Newydd

Tudalen 1 o 4

Yn cau 27 Hyd 2025

Arolwg 1: Pysgodfa Cocos Aber Afon Dyfrdwy: Gorchymyn Rheoleiddio Newydd

1. Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau eich perthynas ag aber afon Dyfrdwy? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
(Gofynnol)
2. Ble rydych chi’n byw (tref neu ardal cod post)?
3. Oes gennych chi drwydded i bysgota am gocos ar hyn o bryd?
(Gofynnol)
4. Os oes, ar gyfer ble mae gennych chi drwydded i bysgota? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
5. Beth yw eich barn ar sut mae pysgota cocos yn cael ei reoli ar hyn o bryd yn aber afon Dyfrdwy?

Efallai yr hoffech ystyried meysydd fel y Broses Gymeradwyo, y Broses o Wneud Cais am Drwydded, Trwyddedau Teulu, y Cynllun Prentisiaeth, Gwneud Penderfyniadau a Gorfodi.

Ystyriwch y canlynol wrth ymateb:

  • Pa agweddau ar y system reoli bresennol sy’n gweithio’n dda yn eich barn chi?
  • · A oes unrhyw heriau, diffygion neu feysydd ble gellid gwneud gwelliannau?
  • A yw’r system bresennol yn deg, yn gynaliadwy ac yn gallu cael ei gorfodi’n effeithiol?
  • Sut mae’r dull presennol yn effeithio arnoch chi’n bersonol, neu ar eich sefydliad neu’ch cymuned?
  • A oes rheolau, gweithdrefnau neu ofynion penodol sy’n anodd i chi eu dilyn neu sy’n aneglur?
6. A oes enghreifftiau o reoli pysgodfeydd cocos (y tu allan i aber afon Dyfrdwy) sy’n gweithio’n dda yn eich barn chi?

Ystyriwch y canlynol wrth ymateb:

  • A oes pysgodfeydd (yng Nghymru, y DU neu’n rhyngwladol) sydd â systemau da rydych chi’n eu hedmygu?
  • Pa agweddau penodol sy’n gwneud y systemau hynny’n effeithiol (e.e. trwyddedu, gorfodi, cynlluniau i ymgeiswyr newydd)?
  • A allai’r arferion hynny weithio yng nghyd-destun aber afon Dyfrdwy? Pam neu pam lai?
  • A oes technolegau neu ddulliau (e.e. monitro cychod, adrodd ar ddalfeydd) y dylid eu hystyried?
7. Pa heriau ydych chi’n eu rhagweld yn y dyfodol o ran rheoli pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy?

Ystyriwch y canlynol wrth ymateb:

  • A oes pryderon ynghylch gorbysgota, cynaliadwyedd stoc neu effeithiau amgylcheddol?
  • A allai newidiadau o ran trwyddedu, gorfodi neu fynediad greu problemau?
  • Ydych chi’n rhagweld anawsterau o ran cydymffurfiaeth neu orfodi?
  • A oes risgiau i draddodiadau lleol, i fywoliaeth neu o ran cydlyniant cymunedol?
  • Sut gallai newidiadau yn y dyfodol effeithio ar ymgeiswyr newydd neu bysgotwyr ifanc?
8. Yn eich barn chi, sut gallai dulliau rheoli yn y dyfodol effeithio ar gymunedau’r arfordir (yn gadarnhaol neu’n negyddol)?

Ystyriwch y canlynol wrth ymateb:

8a. Effeithiau cadarnhaol

  • A allai’r drefn newydd greu mwy o swyddi cynaliadwy neu gyfleoedd hyfforddi?
  • A allai helpu i ddiogelu traddodiadau lleol neu dreftadaeth pysgota?
  • A allai wella tegwch, tryloywder, neu hyfywedd hirdymor y bysgodfa?

8b. Effeithiau negyddol

  • A allai rhai aelodau o’r gymuned golli mynediad neu incwm?
  • A allai rheolau llymach atal cyfranogiad?
  • A allai mwy o reoleiddio roi pwysau ar weithredwyr graddfa fach?
9. A hoffech chi gael gwybod am ddatblygiad y gorchymyn rheoleiddio newydd?
(Gofynnol)