Adolygiad gorsafoedd pwmpio Dolydd Wrddymbre

Ar gau 15 Ion 2023

Wedi'i agor 19 Ebr 2022

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli tri orsaf bwmpio yn ardal Dolydd Wrddymbre, ger Wrecsam yng Nghogledd Cymru.

  • Gorsaf bwmpio Wern-y-Davy
  • Gorsaf bwmpio Dolennion
  • Gorsaf bwmpio Gwern-y-To

Rydym ni’n gweithredu’r gorsafoedd pwmpio i wella ansawdd a dibynadwyedd tir amaethyddol trwy ddraenio dŵr yn artiffisial sydd wedi cronni mewn ffosydd draenio a galluogi dŵr i gyrraedd cyrsiau dŵr naturiol yn gynt.

Nid yw’r pympiau’n gallu atal llifogydd, ond maen nhw’n helpu i waredu dŵr llifogydd o’r tir yn gynt nag y byddai’n digwydd yn naturiol.

Adolygiad Gorsafoedd Pwmpio

Yn 2016, fe wnaethom ni gwblhau rhan gyntaf y prosiect Adolygu Gorsafoedd Pwmpio a oedd yn cynnwys asesiad lefel uchel o 19 gorsaf bwmpio yng Ngogledd Cymru.

Bu’r cam hwn yn adolygu perfformiad a buddion pob gorsaf bwmpio o ran rheoli perygl llifogydd i bobl ac eiddo preswyl, ac yna’n datblygu opsiynau rheoli hirdymor ar gyfer pob gorsaf.

Cwblhawyd asesiadau pellach i sicrhau bod y sylfaen dystiolaeth yn gadarn ar gyfer y gorsafoedd bwmpio hyn.

Ein hopsiynau cychwynnol ynglŷn â dyfodol gorsafoedd pwmpio Wern-y-Davy, Dolennion a Gwern-y-To yw:

  1. Datgomisiynu’r orsaf/gorsafoedd pwmpio – ar ôl neilltuo am gyfnod yn ystod misoedd y gaeaf i sicrhau nad oes unrhyw effeithiau niweidiol anfwriadol, er enghraifft i unrhyw lwybrau caiff eu ddefnyddio gan y cyhoedd;
  2. Trosglwyddo'r orsaf/gorsafoedd pwmpio i berchennog/perchnogion tir.

Pam wnaethom ni gynnal yr adolygiad i’r gorsafoedd pwmpio?

Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, rydym ni’n mabwysiadu dull mwy cynaliadwy o reoli perygl llifogydd ac archwilio cyfleoedd i alluogi ein tirwedd i addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Darllenwch mwy am yr adolygiad ar dudalen y prosiect.

Rydym ni eisiau clywed gennych chi

Wrth i’r astudiaeth ddatblygu, rydym ni’n awyddus i glywed eich barn er mwyn dod o hyd i’r ateb gorau.

Hoffem glywed eich barn a byddem ni’n ddiolchgar pe gallech gwblhau ein holiadur ar-lein. Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu ynghyd ym mis Mehefin 2022 er mwyn i ni allu ystyried dyfodol pob un o’r gorsafoedd pwmpio.

Ardaloedd

  • Bronington

Cynulleidfaoedd

  • Flooding

Diddordebau

  • Flooding