Adolygiad gorsafoedd pwmpio Dolydd Wrddymbre
Trosolwg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli tri orsaf bwmpio yn ardal Dolydd Wrddymbre, ger Wrecsam yng Nghogledd Cymru.
- Gorsaf bwmpio Wern-y-Davy
- Gorsaf bwmpio Dolennion
- Gorsaf bwmpio Gwern-y-To
Rydym ni’n gweithredu’r gorsafoedd pwmpio i wella ansawdd a dibynadwyedd tir amaethyddol trwy ddraenio dŵr yn artiffisial sydd wedi cronni mewn ffosydd draenio a galluogi dŵr i gyrraedd cyrsiau dŵr naturiol yn gynt.
Nid yw’r pympiau’n gallu atal llifogydd, ond maen nhw’n helpu i waredu dŵr llifogydd o’r tir yn gynt nag y byddai’n digwydd yn naturiol.
Adolygiad Gorsafoedd Pwmpio
Yn 2016, fe wnaethom ni gwblhau rhan gyntaf y prosiect Adolygu Gorsafoedd Pwmpio a oedd yn cynnwys asesiad lefel uchel o 19 gorsaf bwmpio yng Ngogledd Cymru.
Bu’r cam hwn yn adolygu perfformiad a buddion pob gorsaf bwmpio o ran rheoli perygl llifogydd i bobl ac eiddo preswyl, ac yna’n datblygu opsiynau rheoli hirdymor ar gyfer pob gorsaf.
Cwblhawyd asesiadau pellach i sicrhau bod y sylfaen dystiolaeth yn gadarn ar gyfer y gorsafoedd bwmpio hyn.
Ein hopsiynau cychwynnol ynglŷn â dyfodol gorsafoedd pwmpio Wern-y-Davy, Dolennion a Gwern-y-To yw:
- Datgomisiynu’r orsaf/gorsafoedd pwmpio – ar ôl neilltuo am gyfnod yn ystod misoedd y gaeaf i sicrhau nad oes unrhyw effeithiau niweidiol anfwriadol, er enghraifft i unrhyw lwybrau caiff eu ddefnyddio gan y cyhoedd;
- Trosglwyddo'r orsaf/gorsafoedd pwmpio i berchennog/perchnogion tir.
Pam wnaethom ni gynnal yr adolygiad i’r gorsafoedd pwmpio?
Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, rydym ni’n mabwysiadu dull mwy cynaliadwy o reoli perygl llifogydd ac archwilio cyfleoedd i alluogi ein tirwedd i addasu i’r newid yn yr hinsawdd.
Darllenwch mwy am yr adolygiad ar dudalen y prosiect.
Rydym ni eisiau clywed gennych chi
Wrth i’r astudiaeth ddatblygu, rydym ni’n awyddus i glywed eich barn er mwyn dod o hyd i’r ateb gorau.
Hoffem glywed eich barn a byddem ni’n ddiolchgar pe gallech gwblhau ein holiadur ar-lein. Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu ynghyd ym mis Mehefin 2022 er mwyn i ni allu ystyried dyfodol pob un o’r gorsafoedd pwmpio.
Ardaloedd
- Bronington
Cynulleidfaoedd
- Flooding
Diddordebau
- Flooding
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook