Cyfres Gweminar Adfer Afonydd 2026: Cyflawni Prosiect ar gyfer Ymarferwyr Afonydd
Overview
Rydym yn falch o gynnal cyfres o weminarau sy'n archwilio'r nifer o ddisgyblaethau sy'n cyfrannu at adfer afonydd yn llwyddiannus. Gan ddod ag arbenigwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd, bydd y gyfres yn arddangos profiad ymarferol, gwersi a ddysgwyd a dulliau sy'n dod i'r amlwg o gynllunio, cyflawni a monitro prosiectau adfer a dalgylch.
Yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn adfer afonydd a rheolaeth dalgylch, mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i rannu arfer gorau, dysgu o astudiaethau achos yn y byd go iawn, a chael mewnwelediadau i sut rydym yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein hafonydd. Bydd pob gweminar yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer trafodaeth a chwestiynau, gan helpu i gysylltu ymarferwyr a hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth ar draws y gymuned adfer afonydd.
Bydd y gweminarau yma yn uniaith Saesneg, ond gyda sleidiau dwyieithog. Croesawir cwestiynau Cymraeg yn ysgrifenedig, a bydd atebion ysgrifenedig yn cael eu darparu cyn gynted â phosib.
Trwy gyfres o sesiynau thematig dan arweiniad arbenigwyr technegol, bydd cyfranogwyr yn archwilio'r pynciau canlynol:
Ffermydd, Dŵr Croyw a Phartneriaeth: Blwyddyn Gyntaf Ffermio Bro
|
11 Tachwedd, 1-2pm Flwyddyn ar ôl lansio cynllun amaeth-amgylcheddol newydd Llywodraeth Cymru, Ffermio Bro, byddwn yn clywed myfyrdodau gan y Rheolwr Cenedlaethol, Lawrence Harris ar gynnydd ac uchelgeisiau'r rhaglen. Bydd Lawrence yn archwilio sut mae Ffermio Bro yn cefnogi dulliau cydweithredol a arweinir gan ffermwyr o reoli dŵr croyw ac adfer afonydd ar raddfa dalgylch. Yna, bydd Dion Roberts yn trafod astudiaethau achos ymarferol o Barc Cenedlaethol Eryri, sy'n arddangos y cyflawniad ar lawr gwlad a'r gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn. |
|
|
Cynllunio ar gyfer Cysylltedd: Rôl Coedwigaeth mewn Afonydd Iachach 18 Tachwedd, 1-2pm Darganfyddwch sut y gall cynllunio coedwigaeth helpu i ddatgloi manteision i afonydd, bywyd gwyllt a thirweddau. Bydd yr Uwch Swyddog Cynllunio Coedwigaeth Rob Marsh yn rhannu sut mae ystyriaethau dŵr croyw yn cael eu hintegreiddio mewn cynlluniau coedwigaeth i gryfhau cysylltedd cynefinoedd a chyflawni canlyniadau amgylcheddol lluosog. Yna byddwn yn clywed gan Rob Booth, Swyddog Adfer Bioamrywiaeth, a fydd yn dod â'r pwnc yn fyw trwy astudiaeth achos gan Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at waith adfer cynefinoedd ymarferol a gwelliannau i gysylltedd ecolegol. |
|
|
Ffocws Pysgodfeydd: Blaenoriaethau Strategol a Chyflawni Rhaglenni 25 Tachwedd, 1-2pm Beth yw'r dyfodol i boblogaethau pysgod mudol eiconig Cymru? Bydd ein gweminar Ffocws Pysgodfeydd yn agor gyda throsolwg strategol gan Brif Swyddog Pysgodfeydd CNC, Ben Wilson, yn archwilio'r materion allweddol sy'n siapio rheolaeth ac adfer pysgodfeydd. Yna byddwn yn plymio i mewn i'r ochr ymarferol o gyflawni. Bydd Dave Charlesworth - Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Reoli Pysgodfeydd Dŵr Croyw yn darparu diweddariadau ar raglenni blaenllaw gan gynnwys y Gronfa Ddyrannu Strategol, Rhaglen Eogiaid Yfory, Dull Cadarnleoedd Eogiaid, a phrosiectau uchelgeisiol sy'n helpu i ailgysylltu afonydd ac adfer llwybrau mudo pysgod. |
|
|
Tystiolaeth ar gyfer Adfer: Monitro Afonydd yn Effeithiol 2 Rhagfyr, 1-2pm Sut ydyn ni'n gwybod a yw prosiect adfer afonydd wedi bod yn llwyddiannus? Ymunwch ag Uwch Swyddog Monitro CNC, Sophie Gott, i archwilio'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir i fonitro prosiectau adfer afonydd, o arolygon cynefinoedd a geomorffolegol i fonitro ecolegol ac ansawdd dŵr. Bydd y sesiwn hefyd yn ymdrin â'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu monitro effeithiol a'r paramedrau allweddol a ddefnyddir i asesu canlyniadau'r prosiect, gan helpu ymarferwyr i adeiladu sylfaen dystiolaeth gryfach ar gyfer adfer. |
Gobeithiwn eich gweld mewn un neu fwy o'r gweminarau. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, ebostiwch: adferafonydd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Areas
- All Areas
Audiences
- Anyone from any background
Interests
- Abstraction Licences
- Adfer afonydd
- Adfer mwyngloddiau
- Adnoddau Dwr
- Ansawdd dŵr
- Bioamrywiaeth
- Biodiversity
- Climate change adaptation measures
- Committees
- Community Engagement
- Community Voulnteering
- Consultation
- Customer Experience
- Customer Journey Mapping
- Cynllunio dwr
- Cynllunio Dŵr
- Datganiad Ardal Morol
- Datglygiad
- Dee
- Development
- EIA
- Engagement
- Equality, Diversity and Inclusion
- Fforwm Mynediad Cenedlaethol
- Fishing
- Flooding
- Forest Management
- Gwastraff
- Gwent
- Gwirfoddoli Cymunedol
- IMPEL Network
- Landscapes
- Llais Rheoleiddio
- Llifogydd
- Marine Area Statement
- Marine Area Statement
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Metal mines
- Mine recovery
- Mwyngloddiau metel
- National Access Forum
- Newport Green and Safe Spaces
- Permits
- Pysgota
- Regulation
- Regulatory Voice
- resources
- Rheoleiddio gwastraff
- Rheoli Coedwig
- river basin planning
- River restoration
- SoNaRR 2025
- Species Licence
- Stakeholder Management
- Strategic review of charging
- The Hub
- Tirweddau
- Trwydded Rhywogaeth
- Trwyddedau
- Waste
- Waste Regulation
- water framework directive
- Water Planning
- water planning
- Water quality
- Water Resources
- WFD
- Woodland Opportunity Map
- Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr
- Ymgysylltu cymunedol
Share
Share on Twitter Share on Facebook