Adolygiad o’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Asesu a Rheoli Stoc Eogiaid yr Iwerydd ar gyfer Cymru a Lloegr
Trosolwg
Defnyddir yr Asesiad Cenedlaethol o Stoc Eogiaid yr Iwerydd gan reoleiddwyr (Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr a Chyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru) i wneud penderfyniadau ynghylch sut i reoli pysgodfeydd eogiaid, yn unol â fframwaith y Strwythur Penderfyniadau Cenedlaethol.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chanolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas) wedi cwblhau adolygiad cynhwysfawr o'r broses genedlaethol o asesu stoc eogiaid yr Iwerydd a ddefnyddir i asesu poblogaethau eogiaid a llywio penderfyniadau ynghylch rheoli pysgodfeydd eogiaid ledled Cymru a Lloegr er mwyn sicrhau ei bod yn defnyddio'r data a'r methodolegau mwyaf cyfredol.
Mae'r adolygiad wedi ystyried canllawiau arfer gorau Sefydliad Cadwraeth Eogiaid Gogledd yr Iwerydd (NASCO) ar reoli eogiaid wrth ddatblygu'r cynigion hyn. Mae hefyd wedi ystyried yr angen i warchod poblogaethau eogiaid, gan ystyried y pwysau digynsail sy'n wynebu poblogaethau eogiaid a'r angen i sicrhau bod pysgodfeydd eogiaid yn gynaliadwy lle bynnag y bo modd.
Mae'r adolygiad wedi ystyried pob agwedd ar yr asesiad cenedlaethol o stociau eogiaid a'r prosesau gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â physgodfeydd. Mae'n gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Diweddariadau i baramedrau asesu stociau eogiaid.
- Model ecsbloetio pysgodfeydd gwialen sy'n gyson yn genedlaethol ac sy'n ystyried data ynghylch asesu stoc sy'n annibynnol ar bysgodfeydd, llif afonydd a’r ymdrech bysgota.
- Dull diwygiedig ar gyfer asesu stociau eogiaid ac asesu cydymffurfedd.
- Dull newydd o ymdrin â statws a chategoreiddio stociau eogiaid.
- Strwythur cenedlaethol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch rheoli eogiaid wedi'i ddiwygio a'i ddiweddaru.
- Mesurau rheoli pysgodfeydd eogiaid arfaethedig sy’n gyson yn genedlaethol i gefnogi adferiad stociau.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y gwelliannau arfaethedig i'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer asesu a rheoli stociau eogiaid:
1. Adolygu Cenedlaethol ar gyfer Asesu Stociau Eogiaid (Crynodeb technegol)
2. Adolygu Cenedlaethol ar gyfer Asesu Stociau Eogiaid (Crynodeb annhechnegol)
Rydym yn ceisio barn unigolion a rhanddeiliaid allweddol sydd â budd o ran rheoli pysgodfeydd eogiaid. Os nad ydych yn cytuno ag argymhelliad arfaethedig, darparwch dystiolaeth berthnasol i gyfiawnhau eich safbwynt.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal rhwng 24 Tachwedd 2026 a 19 Ionawr 2027. Defnyddir eich ymateb i lywio penderfyniadau ynghylch a ddylid gweithredu'r newidiadau arfaethedig i'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer asesu a rheoli stociau eogiaid, a sut y dylid eu gweithredu. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r safbwyntiau a’r camau nesaf o fewn wyth wythnos ar ôl dyddiad cau’r ymgynghoriad.
Sylwer na allwn ymateb i unrhyw bwyntiau neu safbwyntiau nad ydynt yn berthnasol yn uniongyrchol i fethodoleg a phroses yr adolygiad o’r asesiad o stociau eogiaid.
Cwestiynau Ymgynghori
Cwblhewch y cwestiynau canlynol ac esboniwch eich atebion yn y bylchau a ddarperir, a chynhwyswch dystiolaeth pan fo'n berthnasol.
Peidiwch â chynnwys enwau, manylion cyswllt na gwybodaeth bersonol arall yn eich atebion oni bai ein bod wedi gofyn yn benodol am hynny.
Dylai'r holiadur hwn gymryd tua 30 munud i'w gwblhau.
Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gwneud pob ymateb i'r ymgynghoriad ar gael i'r cyhoedd ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, oni bai eich bod wedi gofyn yn benodol i'ch ymateb aros yn gyfrinachol.
Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion sy'n ymateb i'r ymgynghoriad.
O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd gofyn i ni ddatgelu ymatebion i ymgynghoriadau. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei dileu. Os ydych chi wedi gofyn am gyfrinachedd, efallai y bydd gofyn i ni gyhoeddi crynodeb o'ch ymateb o hyd.
Ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth ariannol na gwybodaeth arall a allai adnabod unigolyn na'i fusnes.
Gellir rhannu ymatebion i'r ymgynghoriad a gwybodaeth ategol ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chanolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas) i gefnogi'r dadansoddiad a’r adolygiad o dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar ein gwefan. Gall hyn gynnwys enwau sefydliadau sydd wedi cyflwyno ymatebion.
Dychwelyd eich ymateb
Rhaid i ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ddod i law erbyn 19 Ionawr 2027.
Ymatebwch gan ddefnyddio'r Hwb Ymgynghori.
Fel arall, gellir anfon ymatebion drwy’r post i:
David Mee
Adolygiad Cenedlaethol o Stociau Eogiaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes Newydd
Llandarcy
Castell-nedd Port Talbot
SA10 6JQ
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Anglers
- Fly-fishing
- River restoration
Diddordebau
- Fishing