2026 - Natur am Byth! Arolwg Artistiaid (CYM)
Cyflwyniad
Rydym yn gwerthuso’r effaith y mae Natur am Byth yn ei chael ar artistiaid, a byddem yn gwerthfawrogi clywed am eich profiad chi er mwyn helpu i wella’r rhaglen.
Mae’r arolwg hwn yn cynnwys 22 cwestiwn, a dylai gymryd tua 20 munud i’w gwblhau. Mae pob cwestiwn yn ddewisol, a gallwch hepgor unrhyw rai a’u gadael yn wag.
Mae rhai cwestiynau yn ymwneud â llesiant. Os oes unrhyw beth yn teimlo’n anodd neu’n peri pryder i chi, gallwch gysylltu â Kristy Williams (Cydlynydd Prosiectau Natur am Byth a Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl) neu Addo Creative am gymorth.
Mae pob ymateb yn gyfrinachol ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwerthuso yn unig.
Diolch am eich amser a’ch mewnwelediadau.