DIGWYDDIADAU GALW HEIBIO I YMGYSYLLTU Â CHYFLENWYR
Trosolwg
DIGWYDDIADAU GALW HEIBIO I YMGYSYLLTU Â CHYFLENWYR 21&22/5/2025
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eich gwahodd i ddigwyddiad Ymgysylltu â Chyflenwyr ar gyfer ei Fframwaith Adfer Mawndiroedd i'w cynnal yn:
21.05.25 Swyddfa CNC, Adeiladau'r Llywodraeth, Ffordd Arran, Dolgellau, Gwynedd LL40 1LW
neu
22.05.25 Swyddfa Resolfen, Coed-y-Cymoedd, Resolfen, SA11 4DR
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydlu fframwaith newydd i sicrhau bod contractwyr ar gael ar gyfer cyflawni prosiectau adfer mawndiroedd fel rhan o'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. Nod y rhaglen yw adfer cynefinoedd mawndir ledled Cymru. Bydd gwaith o dan y fframwaith yn cynnwys paratoi safleoedd a gwaith clirio ar fawn dwfn, adfer prosesau hydrolegol, clirio llystyfiant â pheiriannau a heb beiriannau (megis tynnu prysgwydd), a gwaith â chloddwyr ar draciau a gwaith â llaw i adfer hydroleg mawnogydd.
Pwrpas y sesiynau ymgysylltu â chyflenwyr yw i CNC hyrwyddo'r cyfle ac annog cyflenwyr i gymryd rhan drwy rannu gwybodaeth am y fframwaith, y broses gaffael a rhaglenni gwaith mawndiroedd yn y dyfodol. Bydd y digwyddiadau yn ddigwyddiadau 'galw heibio' anffurfiol heb agenda sefydlog, ond gofynnir i'r mynychwyr gofrestru cyn mynychu.
Yn ogystal â chael cyfle i siarad â thîm y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, bydd cynrychiolwyr o Busnes Cymru hefyd yn bresennol i drafod y cymorth y maent yn ei gynnig, gan gynnwys help gyda thendro ac ysgrifennu ceisiadau, llywio'r broses gaffael, a mynediad at hyfforddiant neu gyngor un-i-un.
Os oes gennych ymholiad pellach, mae croeso i chi gysylltu trwy ebost i npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cofrestrwch eich manylion i Ddigwyddiadau Galw Heibio i Ymgysylltu á Chyflenwyr
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Citizens
Diddordebau
- Professional learning