Cynhadledd deuddydd yw MineXchange sy’n datblygu perthnasau rhwng pobl sy’n gweithio yn y maes adfer mwyngloddiau yng Nghymru.
Rydym eisiau helpu pobl o’r byd academaidd, diwydiant a’r sector gyhoeddus i wneud cysylltiadau newydd ac i gefnogi arloesedd drwy rannu gwybodaeth a phrofiad. Bydd hefyd yn edrych ar gyfleoedd i fasnacheiddio amgylcheddau mwynglawdd sydd wedi'u difrodi.
Cynhelir y gynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 27 a 28 o fis Chwefror 2023.
Bydd y gynhadledd - sy'n cael ei threfnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r Awdurdod Glo – yn le canolog i ddysgu am ddatblygiadau mewn adfer mwyngloddiau yn ogystal â dulliau a thechnoleg newydd.
Bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau ac astudiaethau achos a ddarperir gan arbenigwyr yn y maes o ddiwydiant, y sector cyhoeddus a'r byd academaidd.
Bydd ail ddiwrnod y gynhadledd ar 28 Chwefror yn cynnwys taith o dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Glo i Frongoch-Wemyss i weld y gwaith adfer cloddfa metel diweddaraf. Darperir cludiant, ond does dim rhaid i bobl fynychu’r daith.
Gellir trefnu llety yn uniongyrchol gyda Phrifysgol Aberystwyth trwy e-bostio https://bookaccommodation.aber.ac.uk/