Safle Mwyngloddio Minera - Gosod Strwythurau Mesur Llif
Trosolwg
CYHOEDDIAD O FWRIAD I BEIDIO Â PHARATOI DATGANIAD AMGYLCHEDDOL Rheoliad 12B Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd
Safle Mwyngloddio Minera - Gosod Strwythurau Mesur Llif.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gosod strwythurau mesur llif ar y safleoedd canlynol yn safle mwyngloddio Minera, i'r gorllewin o Goed-poeth, Wrecsam:
Lefel Park Day: Atgyweirio plât y gored a gosod pont droed fach yn y Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SJ2712951626.
Lefel Deep Day: Gosod un strwythur mesur llif (cafn) yn y Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SJ 287925020
Stryt y Sgweiar: Amnewid cwlfer a gosod un strwythur mesur llif yn y Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SJ2814950511
Mae angen gosod y strwythur monitro llif er mwyn monitro gollyngiadau o'r safle a chasglu data, i lywio'r gwaith o ystyried a dylunio mesurau adweirio mewn mwyngloddiau metel yn y tymor hirach. Mae'r cynigion hyn yn rhan o'r rhaglen Mwyngloddiau Metel ar y cyd rhwng CNC a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn nad yw'r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Er nad oes bwriad o gael datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle a chafodd Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ei baratoi i'w ddefnyddio yn ystod y prosiect.
Gellir cael gwybodaeth am y Cynllun Gweithredu Amgylcheddol a dyluniad y cynllun o'r cyswllt isod.
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, a’u hanfon i'r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn.
Cyswllt: Louise Siddorn
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle
CH7 3AJ
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mine recovery specialists
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mine recovery
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook