Prosiect Mwynglawdd Metel Potosi Cymru / Esgair Fraith – Gwaith draenio, amddiffyn dros dro rhag erydiad, a gosod strwythur monitro llif
Trosolwg
Cyhoeddiad o fwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol
Rheoliad 12B Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi hysbysiad ei fod yn bwriadu cynnal gwaith draenio, amddiffyn dros dro rhag erydiad, a gosod strwythur monitro llif fel rhan o brosiect Mwynglawdd Metel Potosi Cymru / Esgair Fraith, a leolir yng Ngheulanamaesmawr yng Ngheredigion (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol bras ar gyfer canol y safle - SN 7380 9135).
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad yw’r gwaith gwella hwn yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol ar ei gyfer. Er nad oes bwriad i wneud Datganiad Amgylcheddol, mae dyluniad y cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac mae Cynllun Gweithredu Amgylcheddol wedi’i baratoi i’w ddefnyddio yn ystod y prosiect. Mae caniatâd priodol hefyd yn cael ei geisio ar gyfer gwaith o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Gellir cael gwybodaeth am y Cynllun Gweithredu Amgylcheddol a dyluniad y cynllun gan y cyswllt isod.
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, a’u hanfon i'r cyfeiriad a nodir isod, erbyn 27 Mawrth 2026.
Ebost: louise.siddorn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Louise Siddorn
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle
CH7 3AJ
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mine recovery specialists
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mine recovery
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook