Prosiect Mwynglawdd Metel Potosi Cymru / Esgair Fraith – Gwaith draenio, amddiffyn dros dro rhag erydiad, a gosod strwythur monitro llif

Trosolwg

Cyhoeddiad o fwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol 

Rheoliad 12B Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir)  SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi hysbysiad ei fod yn bwriadu cynnal gwaith draenio, amddiffyn dros dro rhag erydiad, a gosod strwythur monitro llif fel rhan o brosiect Mwynglawdd Metel Potosi Cymru / Esgair Fraith, a leolir yng Ngheulanamaesmawr yng Ngheredigion (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol bras ar gyfer canol y safle - SN 7380 9135). 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad yw’r gwaith gwella hwn yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol ar ei gyfer. Er nad oes bwriad i wneud Datganiad Amgylcheddol, mae dyluniad y cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac mae Cynllun Gweithredu Amgylcheddol wedi’i baratoi i’w ddefnyddio yn ystod y prosiect. Mae caniatâd priodol hefyd yn cael ei geisio ar gyfer gwaith o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).  

Gellir cael gwybodaeth am y Cynllun Gweithredu Amgylcheddol a dyluniad y cynllun gan y cyswllt isod.

Ar gau 27 Maw 2026

Wedi agor 25 Chwef 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mine recovery specialists
  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mine recovery
  • Mwyngloddiau metel