Prosiect Mwynglawdd Dylife – Gwaith Adfer
Trosolwg
CYHOEDDIAD O FWRIAD I BEIDIO Â PHARATOI DATGANIAD AMGYLCHEDDOL o dan Reoliad 5 (1) o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999 (Diwygio) 2017
Hysbysir drwy hyn fod Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru, partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, yn bwriadu gwneud gwaith adfer ym Mwynglawdd Dylife i reoli llygredd a lleihau’r llwyth metel yn Afon Twymyn a achosir gan ddŵr wyneb ffo o fwyngloddiau plwm a chopr hanesyddol Dylife, yn nalgylchoedd Afon Twymyn a Nant Dropyns, Dylife, Powys (OSGR SN 86153 94001).
Mae’r gwelliannau arfaethedig wedi’u lleoli ym Mwynglawdd Dylife a byddant yn cynnwys:
Cam 1: Gosod system ddraenio ar gyfer y ffordd, sy’n cynnwys gylïau ffordd a draeniau cludo, gyfochr â’r ffordd gyhoeddus gydag allfeydd i Afon Twymyn a’i llednentydd.
Cam 2: Leinio Nant Dropyns, yn cynnwys cloddio gwely’r afon a gosod leinin anhydraidd, ac yna ailosod deunydd gwely’r afon. Capio llawr trin y mwynglawdd gyda rhwystr anhydraidd a gosod cyfarpar draenio i ddal dŵr wyneb.
Cam 3: Leinio Afon Twymyn. Gosod rhwystr dŵr daear ar ochr ddeheuol y ffordd; gosod amddiffynfeydd rhag erydiad ar ochr ddwyreiniol Tomenni Hirnant.
Cam 4: Ailosod graddiant a sefydlogi llethrau’r tomenni, ac adeiladu draeniau i’r tomenni.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mine recovery specialists
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mine recovery
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook