Gwaith Plwm Nant y Mwyn

Yn cau 19 Hyd 2043

Wedi'i agor 16 Hyd 2023

Trosolwg

Nant y Mwyn

Lleolir mwynglawdd Nant y Mwyn gerllaw pentref Rhandir-mwyn yn Sir Gaerfyrddin; tua 10 km i'r gogledd o Lanymddyfri.

Mae tystiolaeth o fwyngloddio hynafol (cyn-Rufeinig) ar y safle, fodd bynnag mae'r rhan fwyaf o'r gweithfeydd yn dyddio o'r 16eg ganrif hyd at yr 20fed ganrif.

Ysbeidiol fu gweithgarwch mwyngloddio yn Nant y Mwyn ar ddechrau’r 20fed ganrif a rhoddwyd y gorau i’r safle yn gynnar yn y 1930au.

Gellir rhannu'r gweithfeydd yn ddwy brif ran; y Mwynglawdd Uchaf a'r Mwynglawdd Isaf.

Gweithfeydd y Mwynglawdd Uchaf yw'r rhai mwyaf ac fe'u ceir ar hyd dyffryn Nant y Bai i'r gogledd o Rhandir-mwyn. Maen nhw'n ffurfio porth Upper Boat Level (neu 'fynedfa'r mwynglawdd') sydd wedi dymchwel, pyllau gwaddodi, lloriau trin, tŷ’r injan a simnai a thomenni sbwriel sylweddol. Lleolir gweithfeydd y Mwynglawdd Isaf gerllaw i'r de-orllewin o Randir-mwyn yng nghwm Nant y Mwyn, er fod y gwaith yn ymestyn i’r gogledd-ddwyrain ar hyd y cwm.

Mae'r gweithfeydd hyn yn cynnwys dyddodion rwbel a hen ardal brosesu’r mwynglawdd, porth Ceuffordd Pannau a phorth Deep Boat Level. Deep Boat Level yw'r prif bwynt gollwng ar gyfer Mwynglawdd Nant y Mwyn ac mae wedi'i leoli ar dir eiddo preswyl. Mae'r porth wedi dymchwel gan achosi i'r dŵr arllwys o siafft tua 50m yn ôl o'r porth gwreiddiol cyn llifo i mewn i Nant y Mwyn trwy lednant Church Terrace.

Mae Nant y Mwyn a Nant y Bai wedi’u halogi’n sylweddol ac yn cyfrannu tua 13 tunnell o sinc, 2 dunnell o blwm a 40 kg o gadmiwm i’r amgylchedd bob blwyddyn. Maent yn ffynhonnell bwysig o fetelau yng nghyd-destun Afon Tywi, gan achosi i'r afon fethu â chyrraedd safonau ar gyfer sinc a chadmiwm, ac mae lefelau sinc yn parhau i fod yn uchel am tua 25km i lawr yr afon o'r mwynglawdd.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Mwyngloddiau metel