Gwaith Plwm Cwmystwyth

Yn cau 19 Hyd 2043

Wedi'i agor 16 Hyd 2023

Trosolwg

Cwmystwyth

Lleolir mwynglawdd Cwmystwyth tua 6km i’r gogledd-ddwyrain o Bont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion.

Mae’r gwaith yn gorchuddio tua 250 hectar o dir ar lethrau gogleddol serth Cwm Ystwyth, gyda rhai mân weithfeydd ar y llethrau deheuol. Mwyngloddiwyd tair gwythïen fwynol yn ystod y cyfnod mwyngloddio sef Comet, Kingside a Mitchell. Mae’r gwaith mwyngloddio cynharaf yng Nghwmystwyth yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd Gynnar, pan roedd copr yn cael ei gloddio o wythïen Comet drwy gloddio brig ar Fryn Copa.

Mae’r gwaith wedi parhau’n ysbeidiol o’r cyfnod cynnar hwn gyda hynny ddibynnol ar pa mor broffidiol oedd y gwaith. Daeth y gwaith cloddio i ben yn 1950.

Mae olion helaeth o’r mwyngloddio i’w gweld yng Nghwmystwyth gyda thomennydd gwastraff sylweddol ac olion o gloddio brig, adeiladau sydd bellach yn adfeilion, siafftiau, ceuffyrdd a dyfrffosydd.

Mae Afon Ystwyth yn derbyn yr holl ddraeniad arwyneb ac isarwyneb o'r mwynglawdd. Mae hyn yn ychwanegu tua 12 tunnell o sinc, 2 dunnell o blwm a 30 kg o gadmiwm i'r afon bob blwyddyn.

Mae'r mewnbwn hwn o fetelau yn cyfrannu at fethiant Afon Ystwyth o ran safonau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer sinc, gyda lefel y sinc yn parhau i fod yn uchel i lawr yr afon o'r mwynglawdd cyn belled â'r môr ym Mae Ceredigion. Mae'r mewnbynnau metel hefyd yn cael effaith andwyol ar boblogaethau pysgod ac infertebratau.

Y camau nesaf yw datblygu Cynllun Amlinellol y mesurau ymyrryd ac adfer a nodwyd gan yr Astudiaeth Ddichonoldeb ymhellach, gan gynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Mwyngloddiau metel