Cyhoeddiad o fwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol - Mwynglawdd Parc, Coedgwig Gwydir

Trosolwg

CYHOEDDIAD O FWRIAD I BEIDIO Â PHARATOI DATGANIAD AMGYLCHEDDOL

Rheoliad 12B Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir)  SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu cynnal gwaith adfer sianel ar Nant Gwydir yng Nghoedwig Gwydir, Parc Cenedlaethol Eryri (CGC: SH787602). Bydd y gwaith arfaethedig yn adfer Nant Gwydir yn dilyn methiant llethr a thirlithriad ym mis Ionawr 2025. Bydd y gwaith yn cynnwys llwyrgwympo conwydd ifanc er mwyn sefydlu llwybr mynediad, ac yna gwaith adfer sianel a gwaith cryfhau o amgylch strwythur cored bresennol Ceuffordd Lefel Rhif 4 ym Mwynglawdd Parc.

Bydd y gwaith arfaethedig yn gorchuddio arwynebedd o 1,500m2 ar safle Mwynglawdd Parc. Ymgynghorwyd â Heneb yn ystod y cyfnod cynnar ar gyfer y gwaith hwn. Fel rhan o ymgysylltu cynnar y gwaith, ymgynghorwyd â Heneb i benderfynu a oes unrhyw nodweddion archaeolegol sensitif yn bresennol o amgylch y safle. Penderfynwyd nad oes angen briff gwylio archaeolegol oherwydd effeithiau isel y gwaith ar nodweddion cyfagos nad ydynt wedi'u dynodi. Mae'r gwaith arfaethedig wedi'i leoli ar ACA a SoDdGA Mwyngloddiau Coedwig Gwydir. Mae Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol wedi'i gynnal ac mae arolygon glaswelltir Calaminaraidd ac ystlumod wedi'u cwblhau. Mae mesurau i osgoi'r effeithiau posibl ar y nodweddion hyn wedi'u cynllunio yn y prosiect. Bydd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael ei gynnal a hefyd cydsyniad SoDdGA i ganiatáu i'r gwaith barhau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn nad yw'r gwaith gwella yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Er nad oes bwriad o gael datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle a chafodd Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ei baratoi i'w ddefnyddio yn ystod y prosiect.

Gellir cael gwybodaeth am y Cynllun Gweithredu Amgylcheddol a dyluniad y cynllun o'r cyswllt isod.

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, a’u hanfon i'r cyfeiriad a nodir isod, erbyn 19 Mawrth 2026.

Ebost: louise.siddorn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:
Louise Siddorn
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle
CH7 3AJ

Yn cau 19 Maw 2026

Wedi agor 17 Chwef 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mine recovery specialists
  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mine recovery
  • Mwyngloddiau metel