Mwynglawdd Metel Esgair Mwyn - Gwaith Atal Erydiad Pentyrrau Sborion
Trosolwg
CYHOEDDIAD O FWRIAD I BEIDIO Â PHARATOI DATGANIAD AMGYLCHEDDOL
Rheoliad 12B Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd
Mwynglawdd Metel Esgair Mwyn - Gwaith Atal Erydiad Pentyrrau Sborion
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad o’i fwriad i wneud
gwaith gwella i lednant afon Nant y Garw ym mwynglawdd plwm segur Esgair
Mwyn (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SN7541069320), a leolir tua 2 km i’r
gogledd-ddwyrain o Ffair-Rhos.
Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys y canlynol:
- Creu nodweddion rheoli llifogydd naturiol sydd wedi’u cynllunio i atal erydiad a symudiad gwastraff mwyngloddio. Bydd y nodweddion hyn yn cynnwys rhwystrau wedi’u gwneud o lystyfiant wedi’i fwndelu a’i rwymo, wedi’u gosod i’r ddaear gyda pholion pren.
Bydd y gwelliannau yn cael eu cyfyngu i’r pentyrrau sborion yn unig. Bydd yr holl waith yn cael ei wneud â llaw, gyda mynediad cerbydau wedi’i gyfyngu i draciau fferm.
Bydd tirffurfiau presennol a nodweddion hanesyddol y tomenni sborion mwyngloddio yn cael eu cadw. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar unrhyw ardaloedd hysbys sy’n cynnwys cennau neu fryoffytau prin sy’n gysylltiedig â’r gwastraff mwyngloddio.
O ystyried graddfa fach a natur y gwaith ac absenoldeb safleoedd ecolegol sensitif sy’n bresennol yn yr ardal waith, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod i’r casgliad nad yw’r gwaith gwella arfaethedig yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol sylweddol. Felly, nid yw’n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol mewn perthynas â nhw.
Er nad oes bwriad o greu datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried
ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle a chafodd Cynllun Gweithredu
Amgylcheddol ei baratoi i’w ddefnyddio wrth gyflawni’r prosiect. Gellir gofyn am wybodaeth EAP a dylunio prosiect gan y cyswllt isod.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, a’u hanfon i’r cyfeiriad a nodir isod, erbyn 27 Medi 2025.
Paul Isaac
Plas Gwendraeth
Heol Parc Mawr
Parc Busnes Crosshands
Cross Hands
Llanelli
Sir Gaerfyrddin SA14 6RE
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mine recovery specialists
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mine recovery
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook