Cyhoeddiad o fwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylchelddol - Ceuffordd Pontifex, Mwynglwydd Pandora

Trosolwg

CYHOEDDIAD O FWRIAD I BEIDIO Â PHARATOI DATGANIAD AMGYLCHEDDOL

Rheoliad 12B Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir)  SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd

MWYNGLWYDD PANDORA - CEUFFORDD PONTIFEX: GOSODIADAU STRWYTHUR MESUR LLIF 2026

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu cynnal gwaith mewn dau leoliad yn agos at Geuffordd Pontifex, Mwynglawdd Pandora, Conwy (CGC bras SH76306040), i osod Strwythurau Mesur Llif (FGS).

Mae angen gosod y strwythurau mesur llif a'r gwaith monitro dilynol er mwyn cyfarwyddo dyluniad mesurau gwrth-lygredd ym mhrosiect hen fwynglawdd metel Pandora i ymladd yn erbyn metelau niweidiol sy'n mynd i mewn i ddalgylch afon Crafnant. Bydd y gwaith arfaethedig o osod strwythurau mesur llif yn cynnwys y canlynol:

  • I fyny'r afon o ollyngiad Ceuffordd Pontifex (CGC bras SH76326037) – adfer cored fesur bresennol.
  • I lawr yr afon o ollyngiad Ceuffordd Pontifex CGC bras SH76296043) – gosod offeryn mesur llif yng nghwlfer y maes parcio i lawr yr afon o ollyngiad Ceuffordd Pontifex. Maes parcio Llyn Geirionydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn nad yw'r gwaith gwella yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Er nad oes bwriad o gael datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle a chafodd Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ei baratoi i'w ddefnyddio yn ystod y prosiect. Mae caniatadau priodol yn cael eu ceisio ar gyfer gwaith mewn Cwrs Dŵr Cyffredin.

Gellir cael gwybodaeth am y Cynllun Gweithredu Amgylcheddol a dyluniad y cynllun gan y cyswllt isod.

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, a’u hanfon i'r cyfeiriad a nodir isod, erbyn 20 Mawrth 2026.

Ebost: louise.siddorn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:
Louise Siddorn
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle
CH7 3AJ

Yn cau 20 Maw 2026

Wedi agor 18 Chwef 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mine recovery specialists
  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mine recovery
  • Mwyngloddiau metel