Bwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol - dalgylch Clarach Uchaf

Trosolwg

Cyhoeddiad o fwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol.

Rheoliad 12B Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) SI1999/1783 fel y’u diwygiwyd.

Dalgylch Clarach Uchaf – Gosod Grisiau Mynediad a Strwythur Mesur Llif.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi hysbysiad ei fod yn bwriadu gosod grisiau mynediad a x4 strwythur mesur llif yn y safleoedd canlynol yn nalgylch Clarach Uchaf, ger Cwmsymlog Ceredigion:

Ceuffordd Oliver: CGC SN6804183326 Gosod plât cored 'hollt V', gan gynnwys dyfais cofnodi, synhwyrydd pwysau a bwrdd mesur.

Ymchwydd Siafft Bushell: CGC SN6950083787 Gosod grisiau mynediad a phlât cored hollt hirsgwar cyfansawdd.

Pwynt Gollwng Tomen Bwlch: CGC SN7013082554 Gosod plât cored 'hollt V'.

Pwynt Gollwng Ceuffordd Ddwfn Cwmerfyn: CGC SN6928482863 Gosod synhwyrydd cyflymder o fewn y bibell bresennol.

Mae angen gosod y strwythur monitro llif er mwyn monitro gollyngiadau o'r safle a chasglu data, i lywio'r gwaith o ystyried a dylunio mesurau cyweirio mewn mwyngloddiau metel yn y tymor hirach. Mae’r cynigion hyn yn rhan o Raglen Mwyngloddiau Metel Cymru ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn nad yw'r gwaith gwella yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Er nad oes bwriad o lunio datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle ac mae Cynllun Gweithredu Amgylcheddol yn cael ei baratoi ar gyfer y prosiect. 

Gellir cael gwybodaeth am y Cynllun Gweithredu Amgylcheddol a dyluniad y cynllun gan y cyswllt isod.

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, a’u hanfon i'r cyfeiriad a nodir isod, erbyn 13 Gorffennaf 2026.

Cyswllt:
Tom Williams
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
Parc Cathays
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Os oes gennych ymholiadau cysylltwch â: tom.williams@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yn cau 13 Gorff 2026

Wedi agor 12 Meh 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mine recovery specialists
  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mine recovery
  • Mwyngloddiau metel