Y Môr a Ni

Yn cau 31 Rhag 2025

Wedi agor 8 Ion 2025

Trosolwg

Mae menter newydd dan arweiniad Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru) wedi lansio ‘Y Môr a Ni’ – fframwaith ar gyfer Llythrennedd Morol yng Nghymru, a’r cyntaf o’i fath yn Ewrop. Nod y strategaeth yw meithrin perthynas pobl â’n harfordiroedd a’n moroedd.

Po fwyaf y cysylltiad y mae pobl yn ei deimlo â’r môr, y mwyaf ymwybodol y daw pobl am effeithiau unigolion a chymdeithas ar gynefinoedd morol ac arfordirol. Gall hyn arwain at newidiadau ymddygiadol sy’n cyfrannu at ddiogelu a gwarchod y mannau naturiol pwysig hyn, yn ogystal â’r holl fuddion y maent yn eu cynnig inni.

Mae PMaA Cymru wedi sefydlu Cynghrair Llythrennedd Morol Cymru i ddatblygu Y Môr a Ni. Mae’n cyfuno gwybodaeth a phrofiad dros 30 o sefydliadau gan gynnwys CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru), Llywodraeth Cymru, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’n dylanwad ar y môr, a dylanwad y môr arnom ni.

Yn dilyn y lansiad ar 8 Ionawr, byddwn yn rhannu syniadau ar sut y gall pobl gymryd rhan mewn gweithredu dros y môr yn 2025.

Ym mis Mawrth 2025, treialodd Cynghrair Llythrennedd Morol Cymru ddau ddigwyddiad Gŵyl y Môr: un yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, ac un yn y Fflint, Sir y Fflint. Ar draws y ddau ddigwyddiad, fe wnaeth dros 1700 o aelodau’r cyhoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau ar thema’r môr, gwrando ar gerddoriaeth siantis môr a dysgu am bwysigrwydd diogelu ein cynefinoedd morol ac arfordirol. Yn y digwyddiadau daeth partneriaid o bob cwr o Gymru at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o Y Môr a Ni a chyrraedd cynulleidfaoedd na fu cymaint o ymgysylltu â nhw o’r blaen.

Mae Cynghrair Llythrennedd Morol Cymru yn parhau i ehangu fel rhwydwaith ac yn datblygu ffyrdd o gyflawni amcanion Y Môr a Ni ar lefelau lleol a chenedlaethol ar ran unigolion, cymunedau a phartneriaid ar hyd a lled Cymru.

Cadwch lygad ar y dudalen hon am ddiweddariadau a gwybodaeth ar sut y gallwch gymryd rhan.

Gallwch hefyd lawrlwytho'r Strategaeth Llythrennedd Morol llawn yma


Partneriaid Cynghrair Llythrennedd Morol Cymru

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
RNLI
Fforwm Arfordir Sir Benfro
Prifysgol Bangor
RYA Cymru Wales
Cadwch Gymru’n Daclus
Prosiect SIARC 
Prifysgol Caerdydd

Sea Watch Foundation
Porthladd Aberdaugleddau
Y Gymdeithas Cadwraeth Forol
Academi NatureQuest CIC | Porthcawl
Prifysgol Southampton
RSPB Cymru
Amgueddfa Cymru

CGGC 
Cyfoeth Naturiol Cymru
Llywodraeth Cymru Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru) yn cydweithio i fynd i’r afael â gwytnwch morol | LLYW.CYMRU
Sea Trust

Gwasanaeth Natur Cenedlaethol Cymru
Canolfan Monitro Arfordirol Cymru
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Ymddiriedolaeth Natur Cymru
Câr y Môr
Davitt Jones Bould Law
Project Seagrass
Adventure Smart
Cymdeithas Ceblau Tanfor Ewrop
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
UK Women in Fisheries

Women in Welsh Fisheries
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Tir Canol

Os oes gennych chi neu'ch sefydliad ddiddordeb mewn bod yn bartner, cysylltwch â Reece.Halstead@northwaleswildlifetrust.org.uk.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine developers
  • marine planners
  • Citizens
  • citizens
  • Educators

Diddordebau

  • Climate change adaptation measures
  • Flooding
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Fishing
  • Biodiversity