RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007 PROSIECT CLUDO A STORIO CARBON DEUOCSID HYNET – ALLTRAETH

Ar gau 24 Medi 2024

Wedi'i agor 13 Awst 2024

Trosolwg

HYSBYSIAD CYHOEDDUS DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009 RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007 PROSIECT CLUDO A STORIO CARBON DEUOCSID HYNET – ALLTRAETH

Hysbysir drwy hyn fod Liverpool Bay CCS Limited, Eni House, 10 Ebury Bridge Road, Llundain, SW1W 8PZ wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â’r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’). Cyhoeddwyd hysbysiad o’r cais a’r datganiad amgylcheddol ar Daily Post (ar 12 a 19 Ebrill 2024).

Mae Liverpool Bay CCS Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ar gyfer Prosiect Cludo a Storio Carbon Deuocsid Hynet. Bydd y datblygiad arfaethedig yn addasu asedau alltraeth presennol Eni ym Mae Lerpwl, gan gynnwys y biblinell ar gyfer mewnforio nwy naturiol o blatfform Douglas i Derfynell Nwy Point of Ayr (PoA), i fod yn biblinell allforio i gludio CO2 i lwyfan CCS newydd Douglas. O lwyfan CCS newydd Douglas, bydd CO2 yn cael ei gludo ar hyd y piblinellau nwy naturiol addasedig, i brif lwyfan Hamilton er mwyn ei chwistrellu i gronfa Gogledd Hamilton, ac i lwyfan Lennox er mwyn ei chwistrellu i gronfa Lennox. Bydd y Datblygiad Arfaethedig hefyd yn gofyn seilwaith trawsyrru trydanol a ffibr optig newydd tua’r môr o Benllanw Cymedrig y Gorllanw, gan gysylltu Llwyfan PoA â’r seilwaith alltraeth. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae’n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd.

Mae copïau o’r wybodaeth ychwanegol ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yn

Llyfrgell Y Fflint,
Stryd yr Eglwys,
Y Fflint,
Sir y Fflint,
CH6 5AP

am gyfnod o 42 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.

Gallwch hefyd gael copïau o’r wybodaeth ychwanegol ar-lein o https://publicregister.naturalresources.wales/ neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio’r cyfeirnod cais CML2365

Os gofynnir am gopïau caled o’r dogfennau uchod, efallai bydd yn rhaid talu costau nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Coastal Group Members

Diddordebau

  • EIA
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Marine Area Statement