Hysbysiad O Gais Am Waith Adeiladu A Charthu Cysylltiedig  Phrosiect Estyniad Parc Ynni Mostyn

Closed 10 Mar 2023

Opened 30 Jan 2023

Overview

Deddf Y Môr A Mynediad I’r Arfordir 2009

Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007

Hysbysir drwy hyn fod Porthladd Mostyn Cyf, Ffordd yr Arfordir, Mostyn, Sir y Fflint wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.

Mae'r cais ar gyfer gwaith adeiladu a charthu cysylltiedig â Phrosiect Estyniad Parc Ynni Mostyn sydd wedi’i leoli ym Mhorthladd Mostyn. Mae’r gwaith yn cynnwys adeiladu wal newydd i’r cei ac adfer tua 4.5h o dir y tu ôl i’r morglawdd newydd. Bydd angen cynnal gwaith carthu er mwyn creu angorfeydd newydd, a bydd angen dyfnhau angorfeydd cyfredol a’r sianel ddynesu ar gyfer gweithgareddau cynnal a chadw yn y dyfodol.

Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Llyfrgell Holywell a Canolfan Hamdden, 7 Ffordd

Gwenffrwd, Trefynnon CH8 7UG nes 10 Mawrth 2022.

Gallwch hefyd gael copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/neu drwy e-bostio CNC yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2283.

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Cymraeg

Interests

  • Trwyddedau