ORML1938, Parth Arddangos Morlais
Trosolwg
Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 Hysbysiad o Gais am amrywiad i ORML1938, Parth Arddangos Morlais
Hysbysir drwy hyn fod Menter Môn Morlais Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer amrywio ORML1938 Parth Arddangos Morlais er mwyn gosod dyfeisiau ar wely’r môr sy’n dod i’r wyneb. Mae Barn Cwmpasu wedi’i gyhoeddi i gefnogi’r amrywiad hwn o dan y cod SC2502 a gellir ei weld ar-lein yn https://publicregister.naturalresources.wales/.
Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yng Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ NEU Neuadd y Dref Llangefni, Sgwâr Bulkeley, Llangefni LL77 7LR.
Mae’n bosibl hefyd lawrlwytho copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod – gweler isod gweler isod o’r Gofrestr Gyhoeddus yn https://publicregister.naturalresources.wales/ drwy chwilio am ORML1938v1.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch y cais a'r datganiad amgylcheddol wneud hynny'n ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru trwy ysgrifennu at Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ, neu drwy e-bostio marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk erbyn 03 Rhagfyr 2025. Dylai'r sylwadau fod wedi'u dyddio a nodi'n glir enw (mewn priflythrennau) a chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Dyfynnwch gyfeirnod ORML1938v1 yn eich holl ohebiaeth.
Eir i'r afael â sylwadau a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant hefyd ar gael i'w gweld yn gyhoeddus.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect, yn rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Coastal Group Members
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
Diddordebau
- Datganiad Ardal Morol
- Datglygiad
- Development
- EIA
- Marine Area Statement
- Marine Area Statement
- Marine Protected Areas Network Completion Project
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook