Hysbysiad o gyflwyniad o wybodaeth bellach i gefnogi cais am drwydded forol DEML2540 am Ehangu Treial Ffermydd Morol Adferol Câr-Y-Môr Ar Swnt Dewi

Trosolwg

Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Hysbysiad o gyflwyniad o wybodaeth bellach i gefnogi cais am drwydded forol DEML2540 am Ehangu Treial Ffermydd Morol Adferol Câr-Y-Môr Ar Swnt Dewi

Hysbysir drwy hyn fod For the Love of the Sea Limited wedi cyflwyno gwybodaeth bellach i gefnogi eu cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer ehangu’r ffermydd presennol yng Ngharn Ar Wig (yn ôl 2Ha) a Phorthlysgi (yn ôl 3Ha) ar Swnt Dewi, Sir Benfro.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais DEML2540.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Tîm Trwyddedu Morol,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,

Caerdydd,
CF10 3NQ

neu yrru e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 13 Ionawr 2026, gan ddyfynnu cyfeirnod: DEML2540

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Yn cau 13 Ion 2026

Wedi agor 17 Rhag 2025

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project