Hysbysiad o Gais i Wneud Gwaith Atgyweirio Erydiad ar Wal Fôr Pwll

Closes 3 Sep 2024

Opened 5 Aug 2024

Overview

Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 Hysbysiad o Gais i Wneud Gwaith Atgyweirio Erydiad ar Wal Fôr Pwll

Hysbysir drwy hyn fod Amalgamated Construction Ltd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer gwaith atgyweirio erydiad ar wal fôr Pwll.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2442.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i:

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Tîm Trwyddedu Morol,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu yrru ebost at trwyddedumorol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 03/09/2024, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2442.

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl tynnu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Areas

  • All Areas

Audiences

  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Coastal Group Members

Interests

  • EIA
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Marine Area Statement