Hysbysir drwy hyn fod Awel y Môr Offshore Windfarm Ltd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais i gynnal archwiliad geodechnegol i nodweddu ardal y safle ar gyfer y Fferm Wynt Alltraeth arfaethedig yn Awel y Môr.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais RML2323.
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i’r
Tîm Trwyddedu Morol,
Gwasanaeth Trwyddedu Caerdydd,
Tŷ Cambria,
29 Heol Casnewydd,
Caerdydd
CF24 0TP
neu yrru ebost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 23/06/2023, gan ddyfynnu cyfeirnod: RML2323
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad ebost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Share
Share on Twitter Share on Facebook