Hysbysiad o Gais i Drwsio Pibell Arllwyso Trefor (Gwydir Mawr)

Yn cau 1 Medi 2025

Wedi agor 4 Awst 2025

Trosolwg

Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Hysbysiad o Gais i Drwsio Pibell Arllwyso Trefor (Gwydir Mawr)

Hysbysir drwy hyn fod Alun Griffiths Contractors Ltd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer Trwsio Pibell Arllwyso Trefor (Gwydir Mawr)

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2538.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i’r

Gyfoeth Naturiol Cymru,
Tîm Trwyddedu Morol,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu yrru ebost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 01/09/2025, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2538

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project