Hysbysir drwy hyn fod The Wild Oysters Project: Bae Conwy, Adfer Cynefin Wystrys Brodorol wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer trwydded forol i adfer cynefin wystrys mewn mannau oddi ar arfordir Bae Conwy.
Gallwch weld dogfennau’r cais yn rhad ac am ddim, ar https://publicregister.naturalresources.wales/.
Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio cyfeirnod y cais, sef DEML2284.
Share
Share on Twitter Share on Facebook