Hysbysiad o Gais ar gyfer rhoi Gwaddodion Stormydd y Gaeaf yn ôl ar Draethau ar draws Ynys Môn
Trosolwg
Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Hysbysiad o Gais ar gyfer rhoi Gwaddodion Stormydd y Gaeaf yn ôl ar Draethau ar draws Ynys Môn
Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer rhoi gwaddodion stormydd y gaeaf yn ôl ar draethau ar draws Ynys Môn.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais DEML2468.
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Tîm Trwyddedu Morol,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ
neu yrru ebost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 08/01/2025 , gan ddyfynnu cyfeirnod: DEML2468.
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook