HYSBYSIAD O GAIS AR GYFER PROSIECT GWYNT ALLTRAETH ARNOFIOL LLŶR
Trosolwg
DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009 RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007 HYSBYSIAD O GAIS AR GYFER PROSIECT GWYNT ALLTRAETH ARNOFIOL LLŶR
Hysbysir drwy hyn fod Llŷr Floating Wind Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer Prosiect Gwynt Alltraeth Arnofiol Llŷr. Mae’r Prosiect yn cynnwys adeiladu, gosod, gweithredu, cynnal a chadw a datgomisiynu dilynol hyd at 10 generadur tyrbin gwynt alltraeth arnofiol sydd tua 35 km oddi ar arfordir Sir Benfro yn y Môr Celtaidd.
Gallwch hefyd gael copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/neu drwy e-bostio CNC yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais ORML2465.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook