Hysbysiad O Gais Ar Gyfer Prosiect Cludo A Storio Carbon Deuocsid Hynet – Ar Y Môr

Yn cau 24 Mai 2024

Wedi'i agor 12 Ebr 2024

Trosolwg

Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 Hysbysiad o Gais ar Gyfer Prosiect Cludo A Storio Carbon Deuocsid Hynet – Ar Y Môr

Hysbysir drwy hyn fod Liverpool Bay CCS Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.

Mae'r cais ar gyfer addasu’r asedau Eni alltraeth presennol ym Mae Lerpwl at ddibenion eraill, a fydd yn cynnwys addasu’r biblinell fewnforio nwy naturiol o Lwyfan Douglas i Derfynell Nwy y Parlwr Du yn biblinell allforio i gludo CO2 i lwyfan ‘Dal a Storio Carbon’ Douglas sydd newydd gael ei adeiladu.

Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yng

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

NEU

Flint Library Church Street,
Flint,
CH6 5AP

Mae’n bosibl hefyd lawrlwytho copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod – gweler isod gweler isod o’r Gofrestr Gyhoeddus yn https://publicregister.naturalresources.wales/ drwy chwilio am CML2365.

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Give us your views

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch y cais a'r datganiad amgylcheddol wneud hynny'n ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru trwy ysgrifennu a

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy e-bostio marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk o fewn o 24 Mai 2024.

Dylai'r sylwadau fod wedi'u dyddio a nodi'n glir enw (mewn priflythrennau) a chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Dyfynnwch gyfeirnod CML2365 yn eich holl ohebiaeth.

Eir i'r afael â sylwadau a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant hefyd ar gael i'w gweld yn gyhoeddus.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect, yn rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Coastal Group Members

Diddordebau

  • EIA
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Marine Area Statement