Hysbysiad o Gais ar gyfer Mesurau Atgyweirio a Diogelu strwythur atal erydiad Isbont Clydach A465
Trosolwg
Deddf y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 Hysbysiad o Gais ar gyfer Mesurau Atgyweirio a Diogelu strwythur atal erydiad Isbont Clydach A465
Hysbysir drwy hyn fod Asiant Cefnffyrdd De Cymru wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer gosod mesurau diogelu rhag erydiad yng ngwaelod y pierau cynnal sydd o fewn ochr dde glan yr afon Isbont Clydach A465.
Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yng
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ
Mae’n bosibl hefyd lawrlwytho copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod – gweler isod gweler isod o’r Gofrestr Gyhoeddus yn https://publicregister.naturalresources.wales/ drwy chwilio am CML2437.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook