Hysbysir drwy hyn fod Liverpool Bay CCS Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer gwaith newydd i adeiladu piblinell carbon deuocsid HyNet – gwaith drilio sy’n croesi o dan Afon Dyfrdwy. Mae’n bosibl hefyd lawrlwytho copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod – gweler isod gweler isod o’r Gofrestr Gyhoeddus yn https://publicregister.naturalresources.wales/ drwy chwilio am CML2350.
Share
Share on Twitter Share on Facebook